Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymraeg Llenyddol Llafar 1. 1 Yn y ddadl rethregol ynghylch 'Cymraeg Byw', mae yna gwestiwn newydd wedi dechrau cael ei holi'n ddiweddar. Beth yw Cymraeg Llenyddol Llafar? Neu'n hytrach yn llawnach, Cymraeg Llenyddol Llafar Safonol. Un iaith Gymraeg sydd, ac ynddi lawer o gyweiriau. Dyma'r cywair ar yr iaith lenyddol y gellid ei ddefnyddio mewn amgylchfyd cymharol ddidafodiaith mewn dramâu er enghraifft, yn nialog stoñau, mewn llythyrau anffurfiol, ac mewn prydyddiaeth sy'n llafar ei naws, a hefyd wrth ddysgu ail iaith ar y dechrau. 1. 2 Cywair sgrifenedig yw Cymraeg Llenyddol Llafar Safonol sy'n gysylltiedig â Chymraeg Llafar Safonol. Yn y llyfryn Cymraeg Byw disgrifir detholiad rhagarweiniol o'r cywair hwnnw, ond gellid argymell i ddysgwyr ymagor yn bendant i'r ddau gyfeiriad pegynol wedyn, sef (i) tafodiaith, neu dafodieithoedd yn eu llawnder a (ii) y cyweiriau eraill ar yr iaith lenyddol yn ei llawnder. Awgrymiadau a geir yn y llyfryn hwnnw, bid siwr, nid disgrifiad dihysbyddol. 1. 3 Fe fydd yr athro yn y dosbarth felly, osbyddynderbynyrargymhellion hynny, yn dysgu dau beth yn gyntaf: (i) Cymraeg Llafar Safonol (a fydd yn llawforwyn neu'n fynegiant i'r Cymraeg Llenyddol Llafar) yn ei waith llafar yn y dosbarth. (ii) Cymraeg Llenyddol Llafar (dyma'r hyn a sgrifennir ac a ddarllenir ar y dechrau, a dyma yn anochel yr hyn a drafodir yn y llyfryn hwnnw am mai sgrifenedig yw, er y bydd ambell argymhelliad ynghylch y peth cyntaf). 1.4 Yn ystod y blynyddoedd diweddar daeth athrawon i gydnabod fwyfwy yr angen am ddysgu ail iaith mewn modd llafar yn y dosbarth. Gwelwyd hefyd fod angen cysoni'r gwaith llafar hwnnw â'r gwaith darllen ac ysgrifennu, sy'n fynych yn gyfredol â'r llafar. Gan fod eisoes wrth law, yn y traddodiad llenyddol Cymraeg, gywair sydd wedi ymgymhwyso i gyfleu'r ansawdd llafar, tybiwyd mai priodol fyddai defnyddio a nodi detholiad o'r cywair hwnnw. A dyna yw Cymraeg Byw. 1. 5 Porth yw gwaith llafar a'r cywair llenyddol llafar, ym marn llawer ohonom, i holl ogoniant yr iaith a'r etifeddiaeth lenyddol, er cydnabod ohonom mai cymharol ychydig o'r dysgwyr a fydd yn gallu symud yn eu blaen i feddiannu llawnder y rheini. Pont ydyw ymhlith y cyweiriau. 2. 1 Bu llawer o lenorion ers canrifoedd yn ymgodymu â'r gwaith o lafareiddio'r iaith lenyddol. Nid dyma'r 11e (na'r amser, gwaetha'r modd) i geisio disgrifio'r amryfal ymdrechion a fu i'r cyfeiriad hwn. Diddorol sylwi ar y gwrthgyferbyniad yn hyn o beth rhwng ysgol Milan (1567-1618) ac Ysgol Douai, ac ar Ie Williams Pantycelyn yn natblygiad y cywair.