Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Marianna Trwyn Coch 'ROEDD hi wedi dechrau nosi. 'Roedd y ceffylau bach yn troi uwchlaw Swyddfa'r Heddlu ar ffordd Montroulez. Wythnos Ffair Fathew oedd hi ac 'roedd crytsach Landi i gyd wrth fodd eu c'lonnau. Er nad oedd hi'n un o ddiwrnodau mwyaf poblogaidd y gwyliau 'roedd crugyn o bobl ifainc ac o blant yn prancio o gylch y ceffylau bach a'u goleuadau newydd eu cynnau. 'Edrych 'te, Jan-Mar,' mvnte Saig ar Barzh wrth ei gyfaill Yann ar Berr, "co Marianna Trwyn Coch wedi dod i ben â'i diwrnod golchi yn y Belen Aur. Mae'n dathlu Ffair Fathew. 'Does dim llawer o ôl dwr arni. Edrych arni!' A dangosai'r llanc wraig tua'r hanner cant i'r llall, capan brown ar ei gwallt brith, yn sefyll gan edrych ar y ceffylau bach yn troi, y conffeti'n hedfan, yn siglo'i phen i fiwsig yr organ, a gwên blentynnaidd, wirion braidd, ar ei hwyneb cramennog. "Herve Poder,' mynte Jan-Mar wrth fachgen arall, a oedd wedi cael y gwaith o droi organ y ceffylau bach am bedwar swllt, "dwyt ti ddim yn clywed?' 'Beth sy'n bod?' meddai'r llall gan roi tro i'r olwyn. 'Dere â chân fach Marianna Trwyn Coch i ni. Fe ganwn ninnau'r gytgan. a'i gwadnu hi pan fydd gofyn. 'Rwyt ti'n ddiogel fan 'na cyhyd ag y bydd y ceffylau'n troi.' A chodai llais clir Herve Poder yn uwch na miwsig yr organ yn gywir fel pe'n eilio'r gân, To-to-ro, to-to-ro, Marianna Gerguzh, Mae'r haul yn mynd i lawr Dere'n glau, cawn hwyl yn awr. A'r bechgyn yn eilio bloedd eu pennau ar ôl pob pennill, To-to-ro, to-to-ro Marianna Gerguzh. A Herve'n canu un pennill ar ôl y llall, A dyma hi'n llon ac yn ysgafn ei throed, Marianna fach yn mynd i'w hoed. To-to-ro Bydd gwrid ar ei boch pan ddychwel, ac o! Bydd ei phenwisg a'i sgert hi dipyn ar dro! To-to-ro Wel, dyna waith rhowch y cwbwl dan sêl Rhydd Marianna gusanau fel mêl! To-to-ro Clamp o gusan hir a di-stŵr A fydd ym mhlas Kervanouz yn siwr. 'Wyddom ni ddim a oedd gan y gân fwy i'w ddweud am bleserau maenor Kervanouz, oherwydd 'roedd y ceffylau bach ar fin sefyll yn stond, a Marianna, o gael ei dihuno'n ddisymwth o'i breuddwyd gan leisiau uchel y bechgyn, yn