Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddweud nawr wrth Mari Krenv am hysbysu Seza Riwall i fod yn barod i ddod yma i adrodd gweddïau'r ymadawedig 'Fydd gyda hi ddim llawer o amser i ddisgwyl mwyach Nawr 'mod i wedi dy weld 'rwy'n barod i fynd Cer 'te, 'machgen i, i ddweud wrthi Cer 'te Mae'r amser wedi dod.' Aeth Paol an Du yn ufudd ac am ychydig fe siaradodd yn dawel yr ochr arall i ddrws y stafell wely. Pan ddychwelodd at ei fam 'roedd hi wedi cau'i llygaid a 'wnaeth hi mo'u hagor eto ac yn raddol, lledai rhyw arlliw o lawenydd Marianna Gerguzh slawer dydd dros ei hwyneb gwelw. Stori fer gan ABEOZEN Aberystwyth Wedi'i throsi gan RITA WILLIAMS