Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi LLE Y MAE'R AUR Bu'r Rhufeiniaid yn arbrofi yno yng nghylchyn Gwynfynydd, yn rhyfedd o graff ym mherfedd y graig ac o dan dir grugog a brwynog y Clogau, a thynnu o'r gwythiennau fwyn yn fân ronynnau aur yn hanes treigl eu trigiant yng ngwlad ein tadau. A bu ein tadau hwythau wedyn yn daer yn llafurio, yn fforio ffordd dan groenyn gwydyn eu gwân am elw melyn hyd i daro tair milltir o'r twrian a drosodd yn y drysu o heolydd a thwnelau, nes colli'r argoel am yr aur. Ac erbyn hyn nawr wele agor i'w golygu hen glwydi a fu'n gloëdig, wfftio hen siafftiau fel carthu sbwriel cas, lle y cyrch cathl Pistyll Cain i dorri ar y distawrwydd hyd oriau dyfnderoedd y gwân i feini Gwynfynydd, a lle yr êl y môr awelog i ymannog hyd dwyni'r Clogau. Hud yr aur sy'n cadw'r oriau a'r tramiau hyd y traciau, a'u trwst yn mynd a dod am nwyd y diwydio ar y graig rwym, a lampau helm yn goleuo'r graen ar dalcenni'r graig ac ymateb wyneb y mwynwyr.