Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YMENNYDD Hyn na'n hil yw un darn ohono, darn o ynni'n wae; a thu mewn i'r cortecs newydd, y greyenyn a lyn fel carreg eirinen wlanog. Lloches y grym sy'n llechu'n ei wâl,- un maen yn wal ein hymennydd. Sustem limbig trychfilod cyntefig y tarth yn y tiroedd gwyw, lle tarddodd gwanc ac ofn anghenfil, syched y bwystfil heb waed yn ubain,- bwndel hirfain o nerfau pen crocodil y pwll. Croes gynoesol yw'r nwyd a blannwyd yn y bêl hon, ac yn ffau'r teimladau annileadwy peri hunllef mai fampir anllad y dyheadau dyfn. A hyd fedd mae'n ornest i gyd-fyw'n nerfus, anghysurus â hwn yn ei ogof hen, fel trigo 'nghysgod llosgfynydd. A phẃer rhaeadrau a ffrwydra'n seirff tanlli pan ddianc yn ei ddüwch, gan ymlid tynerwch i'r nos; bwria'i rwyd am yr ysbrydol a gyrru dagr ei ddant trwy garedigrwydd a hedd, gwanu â gwenwyn ogoniant, a gwaedu'r puraf. Hŷn na greddf fydd poen a griddfan enaid bryd hynny'n gri o ddychryn fel a fu'n yr ogofâu,- eco arswyd o'r corsydd. EMRYS ROBERTS