Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Kate Roberts 1891-1985 RHAGAIR Annwyl Mr. Golygydd, Lluniais y sgript a ganlyn, argaisMr. R. Gerallt Jones, Cadeirydd yr Academi Gymreig. Ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl a'r Cyffiniau, teimlai llawer ohonom y dylid coffáu y Dr. Kate Roberts, a diolch i Dduw am ei chyfraniad. Gofynnwyd i mi wneud y gwaith hwn am fy mod yn weinidog iddi yn ystod cyfnod cynhyrchiol iawn yn ei bywyd, y cyfnod sy'n ymestyn o ddyddiau cynnar Ysgol Twm o'r Nant hyd ddyddiau y damweiniau blin a'i cornelodd, a'i llyffetheirio fel llenor. Daliodd i ddarllen, ond teimlai ar ôl cyhoeddi Yr Wylan Degfely bardd mawr Rilke, ar goll stranded like a survivor, my soul in a maze, with no occupation, never to be occupied again. Yr oedd ganddifeddwl mawr o'r Traethodydd. Edmygai ei safon, ac am eifod yn un o gylchgronau'r Cyfundeb, mynnai roi iddo ei chefnogaeth Iwyraf Byddai'n derbyn y cylchgronau i gyd, ac yn eu darllen yn ofalus. Ac roedd ganddi feddwl uchel ohonoch chwi, Mr. Golygydd. Droeon y dywedodd nad oedd ysgolhaig mwy gyda barn aeddfetach yng Nghymru. Byddai llythyr oddi wrth olygydd Y Traethodydd yn gofyn am stori yn procio'r dychymygyn y man a'r lle, ac yn rhoi trefn arfeddyliau rhyfedd un a oedd ac iddi ddyfnder o ysbrydoledd. Ac os oedd stori ar y gweill, ac eraill wedi gofyn am gyfraniad i'r cylchgrawn, os deuai cais oddi wrth yr A thro Caerwyn Williams, effyddai 'n cael y stori, a'r lleill yn gorfod aros! Os ysbrydoledd yw dyn trwy'r oesau yn ymgodymu i wneud ystyr ofywyd, un o apostolion prin ysbrydoledd ail hanner yr ugeinfed ganrif yng Nghymru yw'r Doctor Kate Roberts. Cofiaf amdanom yn dychwelyd o'r theatr yn Yr Wyddgrug ar ôl gweld drama Urien William Y Pypedwr'. Meddai: 'Dyna bregeth odidog, a'r awdur yn dinoethi llygreddy natur ddynol. Fe'i mwynheais am fy mod wedify magu yn Galfin. Nid wyfyn siŵr beth i'w wneud ohoni fel drama, ond mae unrhyw ffurf lenyddol sy'n dangos natur pechod yn werthfawr Yr oedd pechod yn real a phoenus iddi; ac ymdrechfawr oedd byw iddi hi. Am iddi gredu na ellir rhoi trefn arfywydyn y byd hwn, oherwydd prinder amser, credai yn syniad y Pabyddion am y purdan. Darllenai lyfr George Steiner The Death of Tragedy unwaith bob blwyddyn. Iddi hi, 'roedd y trasiedïau mawr yn datgelu caledi ac anobaith dyn yn y byd. Y dwyfol ynddo yw ei unig obaith, a rhaid iddo ddewis Duw. Ni ildiodd hi i'r seicoleg nihilistaidd. Nid oedd neb yn fwy ymwybodol na hi o'r drwg a'r anghyfìawnder sydd yn y byd. Arweiniodd feddyliau ei dosbarth Ysgol Sul trwy'r blynyddoedd i ystyried trueni dyn. Byddai ei dosbarth yn casglu at achosion da, ac 'roedd elusengarwch yn un o'r dyletswyddau. Bu bywyd a chenhadaeth Miss Helen Rowlands yn ddylanwad mawr arni. Dywedaiyn aml: "Rwy'n fodlon i Schweitzer a'r Fam Teresa gael y clod haeddiannol, ond ni ddylem ni anghofio amfunud am wasanaeth clodwiw Helen Rowlands.' Mae llawer o'r storïau a gyhoeddodd yn Y Traethodydd yn adlewyrchu yr