Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhyfeddod yr Ysgol Sul Gymraeg O BOB mudiad neu sefydliad a gychwynnodd yng Nghymru yn ystod y ddau can mlynedd diwethaf, yr Ysgol Sul yn ddiamau íu'r un a gafodd fwyaf o afael ar y Cymry Cymraeg. Fe ddaeth hon i fod yn rhan a chyfran o'r bywyd Cymreig ar ei orau. Fe dyfodd yn bren mawr yn lledu ei ganghennau. Nid yn unig fe dyfodd i fod yn sefydliad poblogaidd gan y lliaws, ond fe lwyddodd yn rhyfeddol i gyfrannu addysg i'r werin bobl a gwneud yr anllythrennog yn llythrennog. Fe drawodd y Dr. R. Brinley Jones yr hoelen ar ei phen, megis, pan ddywedodd i'r mudiad ddysgu'r werin a'i gwneud yn bobl hyddysg yn yr Ysgrythurau, a rhoi iddynt yn raddol ymwybod gwleidyddol: Rhoes yr Ysgol Sul hyder i'r Cymry, y fath o hyder a amlygwyd dro ar ôl tro yn y pulpud, mewn canu corawl a chynulleidfaol ac yn y diwylliant Eisteddfodol. Creodd neu fe ddeffrodd hiraeth yn y Cymro hefyd am gael ei wir ddiwyllio. Gellir dweud mai creadigaeth un gwr oedd yr Ysgol Sul Gymraeg, sef creadigaeth Thomas Charles (1755-1814). Ef, yn anad neb arall, oedd y cynllunydd neu'r pensaer. Cafodd ei addysg gynnar yn Llanddowror. Yna, bu yn yr hen Academi Anghydffurfiol yng Nghaerfyrddin, ac yn olaf oll yng Ngholeg Iesu yn Rhydychen. Llwyddodd i raddio yn Rhydychen, ac yn fuan wedyn cefnodd ar yr Eglwys Sefydledig gan ymuno â'r Mudiad Methodistaidd. Rhyw dair ar hugain oed oedd pan ymunodd â'r mudiad ifanc hwnnw. Ymsefydlodd yn fuan wedyn yn nhref y Bala. Un rheswm iddo wneud hynny, fe ddichon, oedd iddo syrthio mewn cariad â merch ifanc o'r dref honno, sef Sally Jones. Ymhen y rhawg fe'i cymerth hi'n wraig briod iddo. Ef yn anad neb arall a fu'n gyfrifol am wneud tref y Bala yn Fecca i'r Methodistiaid Calfinaidd. Fe'i hadnabyddid gan bob hanesydd wedyn fel 'Thomas Charles o'r Bala'. Yr oedd Thomas Charles yn ddigon llygatgraffi sylweddoli nad oedd gwres a brwdfrydedd a sêl ynddynt eu hunain yn ddigon i beri tyfiant y mudiad ifanc y daethpwyd i'w adnabod fel y Mudiad Methodistaidd. Mae'n wir dweud ei fod yn meddu'r nodweddion hyn i helaethrwydd yn ei ddyddiau cynnar. Pobl wresog oedd ei arweinwyr cynnar. Eithr teimlai Thomas Charles ei bod yn aruthrol bwysig cael pobl yn meddu gradd helaeth o addysg ac ysgolheictod er mwyn tywys y mudiad i'r dyfodol. Rhaid felly oedd wrth bobl a fedrai ddirnad ac amgyffred Diwinyddiaeth Paul a'i Lythyrau, heb sôn am ddiwinyddiaeth a dysgeidiaeth y gweddill o'r Beibl. Yr oedd Thomas Charles wedi cael cyfle ardderchog i weld ac i astudio sut y gweithredai Gruffydd Jones o Landdowror a'i Ysgolion Cylchynol. Credai mai'r ffordd orau i ddiwyllio gwerin Cymru oedd mabwysiadu cynllun tebyg i'r cynllun hwnnw. Yn ôl hwnnw, yr oedd addysg i fod yn rhydd ac yn rhad; a rhaid oedd ei chyfrannu trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Ni ddylai'r cwrs gynnwys dim mwy na'r hyn a oedd wir angenrheidiol, hynny yw, darllen a'r catecism. Yr oedd Gruffydd Jones wedi darganfod ei bod yn bosibl cwblhau cwrs o'r math mewn ychydig fisoedd. Yr oedd llawer i'w ddweud dros gynllun felly. Ymhen ychydig fisoedd, fe fedrai'r athro a'i werslyfrau symud i ryw ardal newydd; ond nid cyn