Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ddim yn Perthyn, 1926 DIHUNODD Dilys i weld yr haul yn llunio sgwaryn gwyn ar y papur wal wrth ochr ei gwely, a thrwy'r ffenest gwelai'r wybr yn las, las heb yr un cwmwl yn y golwg yn unman. Cododd a thaclu'n glou gan deimlo'n ysgafn a llonyn yr heulwen. Yn y gegin yr oedd Neli yn gorffen glanhau'r aelwyd. Llosgai'r tân yn lân a ffres; wedi'r rheso a chodi'r lludw o dan y grat dawnsiai fflamau bychain glas drwy'r cnapiau glo a osodwyd arno mor ofalus, i gyd â'u pigau yn pwyntio tua'r lan. Hwyliodd ei mam frecwast iddi ac yr oedd Dilys bron wedi ei orffen cyn cofio nad dydd Sadwrn mohoni ac mai mynd i'r ysgol a fyddai'n rhaid. Gwaeth fyth, cofiodd fod ei ffrind, Beti, yn dal yn y dwymyn doben ac na fyddai neb yn galw amdani i gyd-gerdded tua'r ysgol. 'Rwy'n mo'yn iti gadw hwn yn lân ac yn gyfan,' meddai ei mam, wrth rwymo'i rhuban gwallt sidan gläs yn glwm-dolen mawreddog. 'Dyna ti, cer yn dy fla'n heb loetran, a bydd digon o amser gen ti'. Wrth ffarwelio â hi ar ben drws diolchai ei mam yn ddistaw bach na fu rhaid ymdrechu'r bore hwn yn erbyn y begian arferol am gael aros gartref. Wedi rowndio'r talcen llusgai Dilys ei llaw fel arfer ar hyd wal y ty i chwilio am gysur y cynhesrwydd y tu ôl i le tân y gegin, pan dynnwyd ei sylw yn ôl at hyfrydwch y dydd gan chwa o berarogl ar awel y bore. Croesodd y llwybr ac ar flaenau'i thraed edrychodd dros wal yr ardd. O'r cylch bach o flodau gwynion y deuai'r arogl. 'Pincs'y galwai Neli nhw, ond gwyn oeddynt bob un, gwynnach o lawer na'r eira a orchuddiodd yr ardd yn ystod gwyliau'r Nadolig. Tu mewn i'r cylch gwyn yr oedd pansis glas wedi agor, bob un â llygad euraid ac yn edrych ar Dilys fel merched bach cyfeillgar yn chwincio arni. Cofiodd am y pin bach prës a gadwai yn ei phoced 'rhag ofn', a gwelodd bwrpas arall iddo'r funud honno. Gosododd y copy-book coch a'i gwaith cartref (Six Sentences on the Wild Rose, a chwe sym) yn ofalus ar ben y wal ac agor gât yr ardd. Ar ôl sefyll eiliad i synhwyro holl arogleuon y bore y pridd, y gwlith, y blodau, torrodd ychydig o'r glas a'r gwyn. Yr oedd ymyl y petalau gwyn fel y brodwaith ar odre'i phais orau, a'r gläs fel melfed ei ffrog gaeaf. Plethodd laswelltyn hir am eu coesau a phiniodd y clwm blodau ar fynwes ei blows tussore. Trueni bod rhaid mynd i'r hen ysgol dywyll yna gyda'i harogleuon cryf, diflas, ar fore mor ffein â hwn. Ocheneidiai wrth gau'r gât y tu ôl iddi, cydio drachefn yn ei llyfr coch a mynd ymlaen at gât fawr yr heol. Safodd yno â'i chefn at y ty-cerrig sgwär, cadarn, gyda'i lawnt o'i flaen, y llwybr llydan wrth ei ochr, a'r ardd hir ar y chwith, a'r cwbl wedi eu hamgylchynu â wal uchel o frics coch. Yn awr nid oedd dim i'w wneud ond wynebu ar y byd a'i holl ansicrwydd. Edrychodd i weld a oedd sôn am rywun arall yn gwneud ei ffordd tua'r ysgol. Yn y pellter gwelai dair o ferched mawr Standard Seven yn dwad yn hyfol, gan daflu pêl rhyngddynt a'i gilydd, a chwerthin a gweiddi ar dop eu lleisiau. Yr oedd Dilys yn eu hadnabod ac nid oedd yn eu hoffi; yn wir, yr oedd tipyn o'u hofn nhw arni hi. Ond heddiw ymddangosent yn ddigon llawen; efallai y byddent yn fodlon iddi gyd-gerdded â nhw y bore braf hwn. Fe fyddai'n dda ganddi eu