Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Ymaith ag Ef, Croeshoelier Ef fyddai hi a Beti a'r plant eraill yn gweiddi yn y Pasiant, wrth esgus bod yn rhan o'r dorf o Iddewon ar y Groglith. Cydiodd rhyw oerfel rhyfedd ynddi. Yr Iddewon! Deallodd yn sydyn pam yn union na ddeuai Leah Black i'r Neuadd i glywed am Iesu Grist. Er bod y dosbarth yn canu gyda hwyl, a'r athrawes am unwaith yn edrych wrth ei bodd, dododd Dilys ei phen ar ei desg a beichio wylo. DEINYS WOODWARD Y TRAETHODYDD CYLCHGRAWN CHWARTEROL Os ydych o blaid y Gymraeg fel iaith ysgolion, yr ydych o'i phlaid fel iaith addysg; Os ydych o'i phlaid fel iaith capel, yr ydych o'i phlaid fel iaith diwinyddiaeth; Os ydych o'i phlaid fel iaith ffurflen a llên, yr ydych o'i phlaid fel iaith diwylliant. Ac yr ydych o blaid cadw'r Traethodydd, yr unig gylchgrawn sy'n darparu ar gyfer diwylliant cyffredinol y Cymro Cymraeg. Bargen am £ 1 y rhifyn + cost cludiad 24c. Bargen fwy tanysgrifiad blwyddyn ymlaen llaw: f4 (gan gynnwys cludiad) Bydd rhifyn lonawr yn torr; tir newydd yn y Gymraeg, a'r arlwy am 1986 yn gyfoethog iawn. Diolchwn am eich cefnogaeth.