Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau BRYNLEY F. ROBERTS, Gerald of Wales (Writers of Wales, University of Wales Press, 1982). ADDAS iawn oedd cynnwys Gerald of Wales yn y gyfres Writers of Wales, oblegid, fel y pwysleisiwyd droeon, er ein bod wedi cyfenwi mab William de Barri ac Angharad ferch Gerald o Windsor yn Gerallt Gymro, nid oedd yn Gymro go iawn, a byddai Gerallt o Gymru'n well cyfieithiad o Giraldus Cambrensis, un o'i gyfenwau. Yr oedd Angharad, ei fam, yn ferch i Nest ferch Rhys ap Tewdwr a Gwladus ferch Rhiwallon ap Cynfyn, ac felly ar ochr ei mam, yn perthyn i un o deuluoedd boneddicafCymru, ond ar ochr ei thad yr oedd yn perthyn i un o deuluoedd y Normaniaid. Heblaw hynny, yr oedd wedi priodi â Norman, ac felly nid oedd ei phlant, a Gerallt yn eu plith, yn ddim ond chwarter Cymry, os gellir dweud hynny. Eithr prin y gellir credu fod Natur yn gweithio mor fathemategol â hynny. Ychydig a wyddys am fam Gerallt, ond yr oedd ei nain, ar ochr ei fam, yn nodedig nid yn unig fel merch i frenin eithr hefyd fel un a fu'n ordderch i amryw wyr, gan gynnwys Henry I, ac fel un a enillodd enwogrwydd fel Helen o Droea Cymru oherwydd ei dwyn drwy drais, a hynny bron ym mhresenoldeb ei gwr, gan Owain ap Cadwgan yn 1109. Yr oedd y nain hon wedi marw cyn geni Gerallt, ond y mae'n siwr ei fod wedi clywed ei hanes, a bod hwnnw wedi lliwio ei ffordd o edrych ar y Cymry yn ogystal ag ar wragedd: mewn oes nad oedd yn synied yn uchel am wragedd, yr oedd ef yn synied yn arbennig o isel amdanynt. Petai Gerallt wedi byw ei oes yng Nghymru, byddai ganddo well hawl i'w alw'n Gymro, ond ar ôl blynyddoedd ei blentyndod ym Maenor-byr, fe dreuliodd lawer o'i amser yn Lloegr ac ar y Cyfandir, ac er y gallasai ymuniaethu â deallusolion Ewrop, gan iddo dreulio cryn dipyn o amser dan addysg ym Mharis a chymysgu cryn lawer ag aelodau Llys y Pab yn Rhufain, â'r Normaniaid yn Lloegr yr hoffai ymuniaethu — nid â'r Saeson yno oblegid nid oedd ganddo fawr olwg ar y rheini, ac nid â'r Cymry yng Nghymru chwaith, oblegid o'i safbwynt ef nid oeddent hwy, ddim mwy na'r Gwyddyl, nemor gwell nag anwariaid. Yn wir, dyma'r safbwynt a adlewyrchir yn ei lyfrau ar Gymru ac Iwerddon. Ond yr oedd wedi ei eni yng Nghymru, yn un o ddosbarth a fynnai lywodraethu Cymru ac Iwerddon, ac ni fynnai fwy na neb o'i ddosbarth ymwadu â Chymru. A rhan o drychineb ei fywyd oedd ei fod yn ormod o Gymro i Normaniaid Lloegr ymddiried ynddo ac yn ormod o Norman i'r Cymry yng Nghymru beidio â'i ddrwgdybio. Fe'i galwyd yn Giraldus Sihester yn ogystal ag yn Giraldus Cambrensis, ac un ystyr i Sihester yw 'o'r coed'. Fe'i ganed tua 1146 a threuliodd ei flynyddoedd cynnar ym Maenor-byr ac ni chollodd erioed mo'i serch at y Ile. Yr oedd un o'i ewythredd, David, yn esgob Tyddewi, ac ato ef yr anfonwyd y nai ifanc i ddechrau ar ei gwrs addysg. Wedyn fe'i hanfonwyd i Gaerloyw ac oddi yno i Baris lle'r enillodd enwogrwydd fel myfyriwr ac fel darlithydd: rhaid ei fod yn un o'r rheini sy'n lleibio gwybodaeth. Ond fel yr oedd wedi rhoi ei serch ar Faenor-byr, fe roes ei serch hefyd ar Dyddewi, ac er nad oedd Tyddewi fel esgobaeth yn cyfrif nemor yng ngolwg y byd, fe gofleidiodd yr uchelgais o fod yn esgob yno. Yn anffodus, er iddo gael cynnig esgobaethau eraill yng Nghymru ac Iwerddon a'u gwrthod, ac er iddo ddod yn agos at fod yn esgob Tyddewi ddwywaith — yn 1177 ac yn 1198, ni chafodd sylweddoli ei uchelgais. Ei wrthwynebydd y tro cyntaf oedd Henry II, a'i wrthwynebydd yr ail dro oedd Hubert Walter, Esgob Caer-gaint. Fe sylweddolir mor galed fu'r ail ymgais pan gofir ei bod wedi cymryd pedair blynedd a thair taith i Rufain cyn i Gerallt roi'r gorau iddi, a deellir mor bwysig oedd hi iddo ef wrth ddarllen ei hanes yn llyfr olaf ei Hunangofiant (De Rebus a se Gestis) ac yn chwe rhan ei Sennau (Invectiones). Ysywaeth, rhagoriaeth ei gymwysterau i'r swydd ar un ystyr oedd y pennaf rhwystr iddo i'w chael. Yr oedd wedi ei eni i fod yn un o breladiaid yr Eglwys. Wedi ei gynysgaeddu â chorff hardd a chydnerth bu byw ymhell dros oedran yr addewid — â chymeriad cadarn di-ofn, â phersonoliaeth ddeniadol a thrawiadol, ac yn arbennig â meddwl cryf a deall craffus, buasai wedi bod yn addurn ar unrhyw eglwys gadeiriol, ond ar Dyddewi yr oedd wedi gosod ei fryd, a chan fod gorsedd Lloegr a gorsedd Caer-gaint, bob un yn ei thro, wedi gweld perygl iddi hi ei hun yn ei benodi ef yn esgob Tyddewi, fe'i gwrthwynebasant nerth braich ac asgwrn, ac yn y diwedd fe lwyddasant i'w lesteirio. Yn ystod yr ymdrech i gael ei benodi'n esgob, fe'i lledodd hi i fod yn ymdrech i ennill cydnabyddiaeth i Dyddewi fel esgobaeth annibynnol ar Gaer-gaint ac fel esgobaeth y byddai esgobaethau eraill Cymru yn ddarostyngedig iddi, ac fel y lledwyd yr ymdrech, aeth yn anos anos i Gaer-gaint a gorsedd Lloegr