Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oddi mewn i derfynau mor gyfyng. Fel y crybwyllwyd eisoes, yr oedd Gerallt yn llenor toreithiog, ac erbyn hyn y mae llawer iawn o ysgolheigion wedi bod yn gweithio ar ei gynnyrch, fel y dengys y llyfryddiaeth gyfoethog a atodwyd yma. Erys llawer iawn i'w wneud ar ei waith. E.e., mae'n sicr y cawn at y traethodau ar Gerallt fel 'Gerald the naturalist' a 'Giraldus Cambrensis and Indo- European Philology', draethodau ar 'Gerallt y teithiwr yn Ewrop' a 'Gerallt y dyfynnwr'. Ond gellir bod yn sicr y deil gwaith yr Athro Brynley F. Roberts ar Gerallt yn werthfawr am lawer, lawer iawn o flynyddoedd. Nid yw hyn yn golygu na fyddem yn croesawu ymdriniaeth helaethach ganddo y mae hon yn dangos olion gorgywasgu mewn mannau. Petaem yn cael y cyfryw ymdriniaeth, mi fyddai, 'rwy'n siwr, yn ymdrin ag arddull Gerallt yn llawnach, ac yn crybwyll ei farddoniaeth a'r adleisio a geir ynddi hi fel yn ei ryddiaith. Carwn weld yn ei llyfryddiaeth hefyd eitem nas cynhwyswyd yma, sef A. A. Goddu a R. H. Rouse, 'Gerald of Wales and the Florilegium Angelicum Speculum, LII (1977). Fel adolygydd mae'n debyg y dylwn ddangos fy mod yn gwybod fod cyfrol arall dra phwysig wedi ei chyhoeddi yr un flwyddyn (1982) â Gerald of Wales yr Athro Roberts, sef Robert Bartlett, Gerald of Wales 1146-1123 (Oxford Historical Monographs). Fe'i seiliwyd ar draethawd D.Phil., ac y mae'n arbennig werthfawr ar Gerallt Gymro fel ethnograffydd. J. E. CAERWYN WILLIAMS EMYR WYN JONES, Bosworth Field: A Welsh Retrospect 1485-1985. (Modern Welsh Publica- tions Ltd., Liverpool and Llanddewibrefi, 1983). £ 2.50. DIAU bod llawer ymwelydd o Gymru wedi cerdded o gwmpas Maes Bosworth eleni ac wedi ymweld â'r arddangosfa ddiddorol a luniwyd gan yr Awdurdodau Sir i egluro manylion y frwydr ac arwyddocâd goruchafiaeth Harri Tudur ar 22 Awst, 1485. Diau hefyd fod ambell ymwelydd wedi sylweddoli, fel y sylweddolodd awdur y llyfr hwn, leied sydd yno ac yn y llyfrau a werthir yno am gefndir Cymreig Harri Tudur ac am gyfraniad y Cymry fel y cyfryw i'r fuddugoliaeth. Pwrpas llyfr Dr. Emyr Wyn Jones ydyw cywiro'r cam a llenwi'r bylchau. Pwysleisia ef yr agweddau hynny ar yr hanes na wyr y Saeson amdanynt neu a esgeulusir ganddynt, megis manylion am ach Harri Tudur, maint a natur y gefnogaeth a gafodd yng Nghymru cefnogaeth a oedd yn hollol allweddol i'w lwyddiant ac yn enwedig arwyddocâd y teimlad gwladgarol a fynegwyd yn y cywyddau a'r canu brud. Cyhudda haneswyr Seisnig o esgeuluso ffynonellau Cymreig a dengys pa mor annigonol a phleidiol y maent o'r herwydd. Ysywaeth, y mae llawer o garn i'r hyn sydd ganddo i'w ddweud, ac y mae ganddo'r boddhad bellach ei fod ef wedi gwneud ei orau i dynnu sylw at y bylchau ac i lenwi rhai ohonynt. Diolch iddo am wneud hynny mor effeithiol. I.G.J. RHAG-HYSBYSIAD R. M. JONES, Seiliau Beirniadaeth. Cyfrol I. Rhagarweiniad. (Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1984). £ 2.00. Daw adolygiad maes o law ar y gyfrol werthfawr hon sy'n cynnwys y penodau a ganlyn: Mathau o Astudiaeth Lenyddol; A oes gwyddor lenyddol?; Amrywiaeth o fewn Undod-Cyferbynnu; Undod o gylch Amrywiaeth Ailadrodd; Man cyfarfod swn a synnwyr; Dieithrio; Cydblethiad Pwrpas, Deunydd a Ffurf; Beirniadaeth Lenyddol Ffurfiolwyr, Marcsiaid, Calfinaidd; Cwestiynau Arholiad; Llyfryddiaeth.