Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

COMED HALLEY Nwyon a llwch wedi rhewi sy'n llafn yn nyfnder yr eangderau, o'r tu hwnt i'r tonnau yn nwyfiant Neifion a'r crwydr ym mhen draw'r creu, y chwŷl wedi saith deg chwech yn felyn o foliant eu nodded o flynyddoedd, y llun yn wast o weddillion yn wybr y croywi ar y cread. Cledd gynt uwch clawdd a gwaun a'i bigyn noeth oedd yn ddychryn hir o'i weled i drigolion yn ddiwael ar y ddaear, ei gais yn gas, a nod y gwân yn gennad gwae i bawb yn y byd. Bu iaith Tapestri Bayeux yn arwydd wedyn am Harold, fel storm a flyso dir, a llun y cledd yn llun claddu hanes ei frenhiniaeth. Yna megis dychmygion encil gwerin Inca unfarn o'i ganfod, er eu hawch i addoli'r haul, yn ofn a oddefai i sbêr concwerwyr Sbaen wanu erwau pêr eu hoen yn naear Perw. Paladr yw bellach, a'r apêl a drawo ar bwylledd y sawl a sylwo yn rhyfeddod y gofod o'i gwr,