Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Pa beth a ddywedai Paul Oedd unwaith yn apostol? Awduron barfog Gwalia Hydrefol ddail Vallombrosa! Ow! goreufardd Bro Gynin Onid chwip ga'dd ar ei din? Heb sôn am fan awduron A'i copiodd hi o'r brig i'r bôn. Hudolus awduresau A lesâ ein pur hoff bau! Fel awdur, annwyl Caerwyn, Codaf lef am beth fel hyn: Ni wn am eiriau weithion — Ai 'hwn' yw 'hwn' ynteu 'hon'? O olygydd, wyf euog Am nad wyf yn gwisgo ffrog. Teimlo'r wyf yn rêl hen rôg Am nad ydwyf mewn ffedog. O na bawn fel Dafydd Êl Yn gadwedig archangel. Caerwyn, ni thâl hyn yntôl; Yn wir, y mae'n annynol. Felly, Williams, olygydd, Dyma air bach o rybudd: Fe fydd hi yn randibw Os gwnewch chi'n stad ni fel un nhw. Ystyriwch, dro, y geiriau hyn, Eich cyn-edmygwr Thomas, Gwyn. Gwyn Thomas