Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nofel gwestiwn cyffredinol. A ellir trafod llenyddiaeth yn unig o safbwynt egwyddorion aestheteg, ynteu a ydyw barnu a chloriannu gwaith llenyddol yn golygu mesur a phwyso'r gwaith o safbwynt moesol arbennig? Fe ddown yn ôl at y cwestiwn hwn gan fodloni ar ei grybwyll yn unig rwân. Trwy gydol ei yrfa athronyddol glynodd yr Athro Lewis yn gyson at dri gosodiad sy'n gwbl allweddol i'w athroniaeth. Yn gyntaf, fod gwahaniaeth sylfaenol rhwng priodoleddau meddyliol dyn a'i briodoleddau corfforol. Yn ail, fod dyn yn ei hanfod yn fod moesol, a'i natur foesol yn deillio o'i ryddid. Mae gan Lewis syniadau pendant am natur rhyddid moesol dyn. Yn drydydd, o iawn ddeall natur rhyddid moesol dyn, mae rhyddid dyn yn syniad allweddol i ddeall natur gwleidyddiaeth, ac agweddau ar fywyd cymdeithasol dyn, gan gynnwys ei ddiwylliant ac yn arbennig ei lenydd- iaeth a'i gelfyddyd. Ynglyn â'r gosodiad cyntaf am natur ac anfarwoldeb yr enaid, datblygodd Lewis ei safbwynt athronyddol, a goblygiadau'r safbwynt hwnnw, ar y pwnc dyrys hwn, yn enwedig mewn perthynas â daliadau athronwyr cyfoes sy'n gwadu gwahaniaeth sylfaenol rhwng gweith- gareddau'r meddwl, ar y naill law, a gweithgareddau'r corff, ar y llaw arall, mewn o leiaf dair cyfrol a ymddangosodd er 1970, sef The Eluswe Mind, The Self and Immortality a Persons and Life after Death. Ynglŷn â natur rhyddid moesol dyn, dyma un o'r pynciau a drafodwyd yn gynnar yn ei yrfa gan yr Athro, yn enwedig yn Morals and the New Theology (1947) ac yn Morals and Revelation (1951). Ynglŷn â pherthynas ei syniad am natur ac anfarwoldeb yr enaid, ac yn enwedig perthynas ei syniad am ryddid moesol dyn â syniadau am wleidyddiaeth, diwylliant, llenyddiaeth a chelfyddyd, cafwyd syniadau'r Athro am wleidyddiaeth yn ei waith cynharaf oll, yn erthyglau gan mwyaf, ac yn enwedig yn ei lyfr Cymraeg Gweriniaeth, ac yna'n ddiweddarach mewn ysgrif 'The Primacy of the Individual', darlith a draddodwyd yn ei swydd fel Llywydd y Gymdeithas Fetaffisegol Gydwladol (1980). Ceir ysgrifau ar y pynciau eraill yn Morals and Reuelation ac yn ei gyfrol Freedom andHistory (1962). Yn ôl ei ragair i'r gyfrol dan sylw, fe obeithia'r Athro gyflwyno un gyfrol sylweddol arall ar The Elusive Selfand God yn trafod perthynas y syniadau am yr enaid ac am ryddid moesol dyn â'n syniadau am Dduw. Yn Freedom and Alienation mae un bennod yn unig, sef y gyntaf, 'The Elusive Self gydag addendum ar 'The Logical limits of willing' yn ailadrodd yn fyr brifbwyntiau'r Athro ar y thesis am natur ac anfarwoldeb yr enaid. Dewisodd yr Athro ysgrifennu'r rhan fwyaf o benodau'r llyfr ar bynciau sy'n ailadrodd ac yn datblygu ei syniadau ar statws moesol dyn. Felly ceir penodau ar 'Moral Worth and Moral Choice' (III), 'Freedom and Character' (IV), 'Choices' (V), a 'Guilt and Alienation' (VII). Mae un bennod (II), sef 'Punishment and Responsibility', yn mynd i