Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Edward Parry 17 23 A7 86, Llansannan Priodol iawn — os caf ddweud oedd dewis Edward Parry yn destun y ddarlith.* Llai priodol 0 lawer oedd y dewisiad o'r darlithydd. Mae'r testun yn addas oblegid dau gan mlynedd i eleni y bu farw Edward Parry 16 Medi 1786. Mae'n werth inni atgoffa'n gilydd am y cyfraniad nodedig a wnaeth i ddatblygiad Methodistiaeth yn y dyddiau cynharaf yn Sir Ddinbych. Ymddengys mai efe oedd y cynghorwr di-urddau cyntaf a'r un mwyaf dylanwadol yn y Sir, a chwbl gymwys yw'r disgrifiad ohono fel 'Seren fore'r Diwygiad yn y parthau hyn'. Fodd bynnag erbyn hyn y prif reswm fod ei enw ar gof a chadw yw ei emyn 'Caned nef a daear lawr'. Annheg yw hyn, oblegid nid gwr y 'ffynnon' yn unig ydoedd. Mae rhesymau eraill dros dalu teyrnged iddo. Cyn sôn am helaethrwydd ei gyfraniad mae'n werth ac yn wir yn hanfodol rhoi crynodeb o hanes ei fywyd a'i gefndir. Mae'r ffeithiau ar gael mewn nifer o ffynonellau, a hyd y gwelaf, mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth yn tarddu o gyfres niferus o ysgrifau yn Goleuad Cymru (1827), o waith Thomas Roberts o'r Waun ym mhlwyf Henllan. Brawddeg neu ddwy'n unig a geir amdano gan Robert Jones, Rhos-lan, yn Drych yr Amseroedd (1820). Ysgrifennodd John Hughes yn helaeth amdano ym Methodistiaeth Cymru (1851-6), ac fe welir crynodeb buddiol yn Enwogion y Ffydd (1880?), cyfrol a olygwyd gan Gweirydd ap Rhys. Cafwyd ysgrif dra gwerthfawr arno gan Morris Davies yn Y Traethodydd ym 1874. Nid yw W. A. Griffiths yn ei gyfrol Hanes Emynwyr Cymru (1885?) yn hollol ddibynadwy. Dywedodd ef i Edward Parry ar ôl ei argyhoeddiad 'lynu wrth ei broffes fel Methodistiad hyd y diwedd', ond yn hyn o beth 'roedd yn anwybyddu'r ffaith i'r cynghorwr di-urddau simsanu am gyfnod o dua deuddeng mlynedd, ac iddo droi yn ôl at yr Eglwys Wladol. Mae John Thickens yn Emynau a'u Hawduron (1945) yn rhoi'r hanes yn eglur a chryno. Nid yw Evan Isaac yn Prif Emynwyr Cymru (1925) yn crybwyll enw Edward Parry. Mae llyfrynnau y Parch. Brynmor Davies ar ardal Llansannan yn ddefnyddiol iawn. 'Roedd y gyfrol a gyhoeddwyd adeg daucanmlwyddiant Capel Tan-y-fron yn drysorfa o wybodaeth am yr aelodau yn gyffredinol. Am arolwg o'r sefyllfa ar raddfa ehangach mae'r gyfrol Hanes Methodistiaeth Dinbych gan E. P. Jones yn dra gwerthfawr. Amcenir yn gyntaf rhoi braslun o fywyd Edward Parry a chrynodeb o'i weithgarwch, a dilynir hyn gydag arolwg ar ei gyfraniad llenorol ac emynyddol. Ganwyd ef yn Llys Bychan, Llansannan, ym 1723, ac er holi llawer o hynafgwyr yr ardal methais leoli safle'r tyddyn. Prin iawn oedd Darlith a draddodwyd i Gyfarfod Dosbarth Eglwysi Llansannan a'r Cylch, 13 Mai, 1986.