Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

llyfrwerthwyr teithiol — 'itinerant booksellers' yn obeithiol iawn; John Rees (er na chaiff y teitl Mr.) yn archebu 50 copi, a Lewis Williams o Ferthyr yn archebu 200 copi. Ni ellir osgoi arwyddocâd Rhestr y Tanysgrifwyr. Nid oes nac enw na chyfeiriad un gogleddwr o Gymro ynddi. Dyma awgrym cryf iawn mai o'r Deheudir y tarddodd y gyfrol, ac mai John Thomas yn ôl ei fwriad oedd y cyfieithydd. Os trosiad Edward Parry ydyw mewn gwirionedd yn ôl y dybiaeth gyffredinol, ac o gofio prinder anorfod ei adnoddau ariannol, sut mae egluro'r ffaith na ddaeth neb o'i gyfeillion yn Sir Ddinbych i gynnal ei freichiau yn y fenter o gyhoeddi'r gyfrol? Ac ymhellach, a chaniatáu am funud mai gwaith Edward Parry oedd Y Ddau Gyfammod, nid oedd reswm yn y byd iddo fynd i Ie mor bell ac anghyfleus â Chaerfyrddin i chwilio am argraffydd a chyhoeddwr. Mae'n wir iddo ddefnyddio Gwasg Trefeca i gyhoeddi ei Alarnad i Elinor Roberts, ond yr oedd y lIe hwnnw yn fwy hygyrch o gryn dipyn, ac yr oedd nifer o bobl Llansannan a'r cylchoedd cyfagos wedi ymuno â'r 'Teulu' yno, ac yn teithio'n ôl ac ymlaen. Erys un ystyriaeth arall ac y mae'n sylfaenol. Pa mor ddibynnol oedd sylwadau Thomas Roberts yn Goleuad Cymru (1827) am Edward Parry fel llenor? Dyma a ddywed: 'Ni ddarfu Ed. Parry ysgrifenu nemawr fel awdwr; ond fe gyfieithiodd un llyfr trwy gynnorthwy Dafydd James, athraw ysgol yn Llansannan; hwnnw ydoedd y Traethawd ar y ddau Gyfammod. Ysgrifenodd hefyd amryw Hymnau a Marwnadau, a byddai yn sôn am eu casglu ynghyd i'w hargraffu; ond ni ddaeth hynny byth i ben.' Mae'n amlwg fod Thomas Roberts heb wybod, neu wedi anghofio, am gyhoeddi'r Alarnad a'r Ychydig o Hymnau ym 1773, ac y mae'n anwybyddu Ychydig Hymnau Edward Parry. 1789, yn y paragraff uchod. Onid yw'n bosibl ei fod wedi camgymryd Y Ddau Gyfammod am Y Perl Gwerthfawr, cyfrol sy'n dwyn tystiolaeth brintiedig o 'gynnorthwy Dafydd James'. Nid gwaith hawdd yw codi amheuaeth am gywirdeb tystiolaeth leol, a bron gyfamserol, am Edward Parry fel llenor, a hynny ar achlysur ei ddaucanmlwyddiant. Ond er mor ddiddorol yw'r Cofiant am Edward Parry yn Goleuad Cymru, mae'n rhaid addef nad yw tystiolaeth Thomas Roberts amdano fel llenor yn ymddangos yn gadarn. Ar y llaw arall ymddengys i mi fod tystiolaeth gadarn iawn, a chyfamserol eto, o blaid John Thomas, Rhaeadr Gwy, ac nid gwiw ei hanwybyddu. Wedi ceisio pwyso a mesur y sefyllfa yn ofalus teimlir na ellir parhau i dderbyn y farn draddodiadol, ac mai anochel bellach yw priodoli'r cyfieithiad Agoriad i A thrawiaethy Ddau Gyfammod a gyhoeddwyd gan J. Ross yng Nghaerfyrddin ym 1767, ac a ail argraffwyd 'wedi ei ddiwygio a'i wellhau' yn Nhrefeca ym 1781, i John Thomas. Mae sylwadau manwl John Thickens yn ei Emynau a'u Hawduron ar John Thomas (tt. 125-7) yn werthfawr iawn. Yn naturiol trafodir Caniadau Sion, a sonnir am Farwnadau i Howel Harris a Dafydd Jones o Gaeo; a chyfeirir at y ffaith y 'bu'n ddiwyd yn cyfieithu', ond ni chrybwyllir Y Ddau Gyfammod. OL-NODIAD Yn ystod yr ymchwil i hanes Edward Parry cafwyd cyfle i archwilio Cofrestrau Plwyf Llansannan, a gyhoeddwyd dan y teitl The Registers of Llansannan 1667- 1812, ym 1904. Yn y Rhagymadrodd gan Robert Ellis, Rheithor Llansannan, dyfynnir sylwadau gan yr Hybarch Archddiacon D. R. Thomas prif hanesydd Esgobaeth Llanelwy yn Saesneg: