Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gwers newydd, ddifrifol iddo: 'This was the sum of that morning-exercise, how men oppresseth God in mans oppression; and then that God oppresseth also their spirits, as they do His'(52). Yn ei batrwm, yn ogystal ag yn ei gynnwys, felly, mae'r pamffledyn hwn yn enghraifft ddadlennol o'r modd y mae cydwybod grefyddol newydd, frawdgarol, yn tyfu allan o'r hen gydwybod fewnblyg, 'efengylaidd'. Bron na ellir awgrymu fod y pamffledyn yn un hanesyddol yn hanes y Gymru fodern am mai yma yr ymddengys (hwyrach am y tro cyntaf) briod- oleddau'r gydwybod gymdeithasol, Anghydffurfiol. Dyma un o'r amryw resymau paham y byddai'n dda cael dehongliad newydd trwyadl Gymreig o yrfa William Erbery, oherwydd efe yw un o ragflaenyddion cynnar pwysicaf y glewion hynny yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a ysgogid gan eu ffydd grefyddol i geisio gwell a thecach trefn ar eu cymdeithas. 'Why', meddai eto'n brofoclyd, 'not a Treasury for the poor, when so many thousands a year, can be found out to give to the rich? Would that hinder the publick more than this?'(75). At hynny, noder fod Erbery yn ymfalchio yn ei Gymreictod, ac yn argyhoeddedig fod Cymru am chwarae rhan bwysig yn y chwyldro a oedd ar ddod. Cythruddwyd ef gymaint gan y gefnogaeth a roddid i'r Degwm gan rai o weinidogion yr Efengyl yn Lloegr, nes iddo ddatgan yn ffyrnig: 'its such a Monster, that it made my Welsh blood to rise at your English Religion'(199). Nid ydwyf, serch hynny, am ddilyn y trywydd hwn. Gwell gennyf ganolbwyntio ar ddaliadau diwinyddol William Erbery, er mwyn taflu rhyw ychydig o oleuni ar destun arall a esgeuluswyd gennym braidd, sef y berthynas rhwng dysgeidiaeth William Erbery a daliadau crefyddol Morgan Llwyd. Y gwir yw fod y berthynas hon, yn y gorffennol, wedi ei gorbrisio a'i dibrisio yr un pryd. Cymerwyd yn ganiataol beth sydd mewn gwirionedd yn amheus, sef fod Erbery wedi dylanwadu'n bur drwm, a hynny mewn ffordd uniongyrchol, ar gynnyrch meddwl aeddfed Morgan Llwyd; ond bach iawn o gymharu manwl a fu o athrawiaethau'r naill a'r llall. Ni wyddom nemor ddim i sicrwydd am berthynas y ddau cyn i Forgan Llwyd yrru llythyr at Erbery ym 1652. Ynddo mae'n sôn am y fendith a dderbyniasai gan Erbery yn y gorffennol, yn cyfeirio ato fel 'my once-dear School-master', ac yn ymbil arno i'w gynorthwyo i ddeall rhai o ddirgelion cred. Ymddengys yn glir fod Morgan Llwyd yn ymwybodol o fywyd crwydrol, dadleuol Erbery ('tempestuous and strange'), a'r sion a oedd ar led amdano' 'neither do I disown you (as some strange notionist or sceptick gnostick) I ever lodged respectful thoughts of you.' (II, 257-258)5. Cyn manylu ymhellach, felly, gwell i ninnau hefyd ein hatgoffa'n hunain am hanes bywyd cynhyrfus William Erbery a'i ddysgeidiaeth anghyffredin.6