Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

E. D. JONES (gol.), Lewys Glyn Cothi (Detholiad), (Gwasg Prifysgol Cymru, 1984). Pris :.C8.95. RHWNG cloriau'r gyfrol hyfryd hon ceir mewn bychanfyd olwg go gyflawn a thryloyw ar wareiddiad pendefigaidd Cymru yn yr Oesau Canol Diweddar a mawr yw ein diolch am gael y cyfle i droi at y fath argraffiad tra medrus o bigion awen gymen Lewys Glyn Cothi. Wele mwyach ddyrchafu un o benceirddiaid perchentyaeth i'w gyflawn haeddiant ymhlith meistri'r awen yn awr anterth canu gorfoledd cain Beirdd yr Uchelwyr. Ceir y manylion am y bardd a'i gynefin yn y Rhagymadrodd a gosodir cyfnod ei flodeuo rhwng 1447 a 1489. (Dylid cyfeirio yn y fan hon at ysgrif gyfoethog y golygydd ar Lewys Glyn Cothi yn A. O. H. Jarman/Gwilym Rees Hughes (eds.), A Guide to Welsh Literature, Vol 2, (1979), xi). Arlywir 50 o gerddi yn y Testun: cyfres o englynion i Dduw, wyth o awdlau mawl a marwnad, coflaid o gywyddau mawl a marwnad i leygwyr a llond dwrn i wyr eglwysig, awdl-gywydd i Ddewi Sant, cywydd i Saint Elfael ac un i Lawddog Sant, cywyddau gofyn a diolch, cywydd cadarn i'r Grog, cywydd i Farf y Bardd, a'r cywydd clasurol campus hwnnw sy'n marwnadu colli Siôn y Glyn, mab pum mlwydd oed y bardd. Ar y diwedd daw nodiadau i dywys y darllenydd at gyfeiriadaeth ddysgedig y bardd ac at ystyron geiriau. I gloi'r cwbl yn dwt darparwyd Geirfa helaeth a Mynegeion hwylus. Y mae meistrolaeth y bardd ar geinion crefft Cerdd Dafod at ei gilydd yn ddigon ystwyth a'i iaith yn ddillyn drwyddi. Cymhendod saernïaeth lefn ac unol ei datblygaid cypledol gan amlaf yw un o gryfderau amlycaf y bardd, nodwedd sy'n gwneud iawn am y blas rhyddieithol sydd ar y canu ar y darlleniad cyntaf. Eithr o ddyfalbarhau gyda'r darllen y mae'r argyhoeddiad yn graddol ddyfnhau fod yn y canu hwn sefydlogrwydd unplyg gweledigaeth sagrafennaidd am ddyn a'i gymdeithas gerborn y Crëwr. Union gadernid gorfoledd tawel a sicr Lewys Glyn Cothi yn y drefn ddwyfol o frig y Gadwyn Bod i'w bôn gyda dyn yn y canol yn serennu gwlith bendithion ei Grëwr mewn tŷ a gwlad yw'r hyn adlewyrchir mor gyson yn symudiad llyfn llawer o'r cywyddau gwastad i wyrda a'u gwehelyth o hil fonedd. Mae'n hoff iawn o bentyrru delweddau pendefigaeth, yn arbennig delweddau o fyd tyfiant pan fo'n moli ach dda a phraffter noddwr. Ac yn hyn o beth y mae ei ddelweddau yn ymagor i synhwyrau'r darllenydd ar ffurf cwrlid cain sy'n gyfoeth gwiw o batrymau meddwl a theimlo a oedd yn gwbl gyffredin i'r beirdd fel cyfangorff. Rhan organig o ddull y beirdd o feddwl a theimlo am noddwr ar ei orau a pherchentyaeth ddelfrydol o Daliesin ymlaen yw'r cyfan. Traddodiadol yw ei gymariaethau a'i drosiadau wrth ddisgrifio noddwr a'i uniaethu ag arwyr yr Hen Fyd, yr Hen Ogledd, y Cylch Arthuraidd a Ffrengig, ac wrth gwrs yr Ysgrythurau. Ond fe'u cymharodd â noddwyr Dadeni Oes y Tywysogion a rhai'r 14 ganrif, yn ogystal. Wele'n awr ddyrnaid o'r trosiadau traddodiadol am noddwyr a'u gwragedd. tarw, tarian (2llin. 113, 115); eryr (14 Uin. 5); llew, maen diemwnt (15llin. 1, 2); carw (16llin. 1); gleisiad (24 Uin. 41); alarch, eryr, paun (8llin. 26, 27, 28); rhosyn (5llin. 37); hebog (20 llin. 31); lleuad, lamp (22 llin. 57, 52); gwawr ddydd (17 llin. 26). Cymherir y gwragedd â rhianedd teg y gorffennol a defnyddir delweddau goleuni