Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gan amlaf i foliannu prydferthwch. Trosiadau yw'r rhain y gellir eu ffitio'n rhwydd yng nghategorïau dosbarthiadol fanwl y Gadwyn Bod. Yn fras gellir eu rhannu'n ddau, sef y rhai a ddaw o'r dosbarthiadau islaw dosbarth dyn ar y ddaear, a'r rhai a ddaw o'r nefolion leoedd uwchlaw dosbarth dyn, sef y trosiadau am y gwragedd, megis lleuad, er enghraifft. Delwedd am lendid pryd a gwedd yw hon ac yr oedd goleuni'r ffurfafen yn cael ei hystyried yn burach nag eiddo'r ddaear. Brig y Gadwyn oedd Duw, a cheir cip arno Ef, Y Noddwr Mawr, yn yr englynion agoriadol. Fe welir bod y bardd yn synio am Dduw yn nhermau noddwr daearol delfrydol, ac y mae'n ei annerch gyda throsiad cwbl draddodiadol am uchelwr. Geilw'r Crëwr yn Arglwyddwalch yr arglwyddi (I, llin 3). Uchelwr yw'r Mab hefyd: Crist o'r nef yw'r pendefig, meddai (I, llin. 63). Moliant anthropomorffig sydd ganddo gan mai fel arglwydd daearol perffaith y gwêl Dduw. Eithr ar yr un pryd yr oedd y Crëwr yn fod goruwchnaturiol trosgynnol a cheir y bardd yn clensio'r ddwy agwedd yn y llinell ddiwinyddol gyfewin hon pan eilw Duw Yn Ddewin gwyn, yn ddyn gwâr (I llin. 128). Wrth gwrs ni chanodd Lewys Glyn Cothi i syniad athronyddol y Gadwyn Bod, eithr yr oedd ei dreftadaeth gyfan wedi ymfwydo yn yr ymwybod dynol fod trefn drwy'r Cread lIe yr oedd popeth yn perthyn i ddosbarthiadau gwahanol o fewn undod cyflawn. Dull yr Oesau Canol o iawnsynio am y drefn oedd hwn, yr oedd yn fyfyrdod athronyddol mawreddog a dethau. Rhoddwyd i ddyn safle cwbl freiniol ar y ddaear gan iddo gael ei greu ar lun delw y Crëwr ei hun a'i ysgwyddo â chyfrifoldeb arglwydd dros y ddaear achlân. Yn unol â'r fraint unigryw hon yr oedd disgwyl i ddyn ar ei orau, er oblygiadau pechod Adda, barhau i adlewyrchu haelioni a charedigrwydd, cyfiawnder a thrugaredd y Crëwr drwy feithrin gwarineb, a hynny nid yn unig yn y tŷ ac wrth deulu, ond mewn cymdeithas a chyda dynion o bob gradd. Un o themâu cywrain a chyson Lewys Glyn Cothi yw honno sy'n moli ceidwadaeth y noddwyr, sef eu swydd fel cynheiliaid gwareiddiad ei hun. Canllaw yw hil Siancyn Llwyd Cynheiliawdr nawcan haelwyd, meddai am Tomos ap Phylib o Bictwn (19 llin. 11-12). Ceidwad i wan a chadarn yw Meredudd Amheredudd o Drefeglwys (23 llin. 11). Yr oedd moli rhinweddau o'r fath yn foliant cadarnhaol i ddaioni'r Crëwr ei hun. Yr oedd colli gwarineb mewn ty a gwlad yn chwalu seiliau bywyd ei hun ac yn bygwth y drefn ordeiniedig ddwyfol gyda diffeithdra anghyfannedd: Gwag tir a welir heb reolaeth, Gwag ty heb wely a mabolaeth, Gwag tref hab blasau, gwag traeth heb ddyfredd, Gwag annedd heb wledd, heb fedd, heb faeth. Gwag llan heb brelad, heb geidwadaeth, Gwag twr heb sowdiwr a bwa saeth, Gwag aelwyd heb fwg, a gwaeth fydd heb dân, Gwag gwladan lydan heb ddeiliadaeth. (3, llin. 127-134) Pan roddai dyn ei gyfrifoldeb o'r neilltu yr oedd y greadigaeth naturiol yn dychwelyd i anhrefn a gwylltineb yn disodli diwyllio dyn. Unsill eithafol o ddychrynllyd yw gwag sydd yn meddu ar y math pendantrwydd terfynol ag anadlu'r anadl olaf. Ac onid yw ailadrodd bwriadol anorchfygol negyddol yr arddodiad heb yn creu arswyd statig a noeth? Eithr i'r gwrthwyneb yn deg yr oedd hi ar aelwyd y tŷ bonedd, a'r tai yn aelwyd gwlad gyfan. Yno, yn y tŷ a'i gynhesrwydd y meithrinid diwylliant crwn cyfan a chadw ystyr a diben pob dim yn gyflawnder difrycheulyd di-dor o'r naill genhedlaeth i'r llal1. Yma y digwyddai maethloni corff ac ysbryd. Ni châr y bardd unigedd oherwydd nid oedd nodded