Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhydd cyfraniad Martin Ball ('Phonetics for Phonology') rybudd y dylai seinyddiaeth ystyried realiti seinegol, a dylid ei gymharu â'r rhyddid dadansodd- iadol a geir yn erthyglau Gwenllian Awbery ac Alan Thomas. Er mwyn pwysleisio ei bwynt, disgrifia ddadansoddiadau offerynnol ar bedwar ffenomenon cyf- arwydd yn y Gymraeg. Mae'n berffaith gywir y gall y dulliau synhwyrol o ddisgrifio ynganu seiniau fod yn oddrychol, a dengys y sylwadau ar lais sut y gall seineg offerynnol ail-asesu syniadau traddodiadol. Ar y llaw arall, dylid cofio na rydd mesuriadau peiriant nad yw'n deall gair o Gymraeg atebion sicr i gwestiynau'r ymchwiliwr. Mae sylwadau'r awdur ar lafariaid gogleddol yn ddiddorol dros ben, ond nid ydynt yn rhoi eglurhad sicr ar faterion ynganu. Hefyd, fe all gwaith offerynnol arbrofol effeithio ar arfer naturiol siaradwyr -cyfeiria'r awdur at drin tafod gwirfoddolwr dewr cyn iddo gael X-ray at bwrpas yr ymchwil yn yr ysbyty ym Mangor. Rhydd erthygl Glyn Jones ('The Distinctive Vowels and Consonants of Welsh') ddisgrifiad cynhwysfawr o'r cytseiniaid a'r llafariaid. Defnyddir ffram- waith cyson gan roi manylion am nodweddion ynganu pob sain, eu safleoedd posibl mewn patrymau (cymharer erthygl Gwenllian Awbrey), ac amrywiadau aloffonig a thafodieithol. Hwyrach y gellid cwestiynu dewis Llanwrtyd fel sail i'r disgrifiad yn lle un o'r prif dafodieithoedd. Ond gwneir casgliadau cyffredinol am y Gymraeg gan gyfeirio at gyffelybiaethau a gwahaniaethau mewn tafodieithoedd eraill. Noda'r awdur, ac yntau'n ogleddwr, nad oes gennym lawer o wybodaeth gyfoes am dafodieithoedd y gogledd. Hwyrach fod y sefyllfa hon yn ganlyniad i'r duedd anffodus ymhlith rhai tafodieithegwyr i recordio y tafodieithoedd hynny sydd mewn perygl o ddiflannu. O ddiddordeb arbennig yn ymdriniaeth Glyn Jones yw defnyddio ochrol fel man ynganu, dewis affrithiol wfwlar yn Ue felar (cytunaf â'r dewis), dewis [r] am r er bod [r] neu [rh] yn gystadleuwyr cryf, ac O 0 yn awgrymu bod dylanwad y ffaryncs yn elfen bwysig mewn disgrifio llafariaid a rhai cytseiniaid y gogledd. Hoffwn weld mwy ar y pwnc olaf, yn enwedig ar y posibilrwydd fod statws prosodig i'r nodwedd hon; mwy o drafodaeth ar w mewn geiriau megis cwyn/cwyno, gwraig a gwlad; mwy o gyfeiriadau at seiniau'r iaith ysgrifenedig safonol ymhlith yr amrywiadau er mwyn dadansoddi prosesau cymhleth megis sgwarnog am ysgyfarnog ac ati. Cyfeiriwyd eisoes at y ffaith na rydd y cyfraniad ddigon o Ie i'r awdur a theimlaf fod y pwynt hwn yn arbennig o berthnasol i dadansoddi'r llafariaid a'r deuseniaid, ond gwna'r awdur waith da mewn fframwaith cyfyng iawn. Yn ogystal â disgrifio patrymau seiniau yn nhermau cytseiniaid a llafariaid, ymdrinia Gwenllian Awbrey ('Phonotactic Constraints in Welsh') â'r un maes â Glyn Jones gan ei bod yn ystyried seiniau unigol mewn cyd-destun patrymol. Mae'r erthygl yn llawer mwy haniaethol na gwaith Glyn Jones gwelir hyn yn y ffaith fod yr awdures yn defnyddio dosbarthiadau mwy cyffredinol ar gyfer y cytseiniaid ac, yn fwy trawiadol, yn yr awgrymiad fod y deuseiniaid yn ddilyniant o lafariaid + /w/ neu /j/. Pwyslais y gwaith hwn yw darganfod rheolau sy'n esbonio'r mathau o batrymau o seiniau a geir yn y Gymraeg. Rhydd y ffordd hon o ddisgrifio seiniau gipolwg deinamig ar iaith sydd ar goll mewn rhestr o nodweddion y seiniau unigol. Dylid canmol yr awdures am roi trefn ar faes cymhleth a hefyd am ddewis dull niwtral effeithiol o gyflwyno'r ffeithiau. Mae'r awdures ei hun yn cydnabod bod bylchau yn y dadansoddiad. Canolbwyntir ar safleoedd dechreuol, canol, a therfynol. Ond mae'r sefyllfa yn fwy cymhleth na hyn a hoffwn weld mwy o wybodaeth am effaith prosesau morffolegol a'r berthynas rhwng y posibiliadau mewn ffurfiau syml a ffurfiau cymhleth. Hefyd,