Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OES Y MEDWSA Ni welwch atal gan ddirgelwch natur i law dyn gyplu â'i doniau. Ni omedd ei hiwmws, yn ffyniant o'i orffennol, i'w ddistyllion ffrwythloni y pridd a'r preiddiau, yn iaith brodwaith yn eu bro. Celfydd fydd y defnyddiol wrth ddiwallu maes, wrth ddiwyllio moesau, am mai defnyddiol y modd a fedd y gelfyddyd: Pob gwaith a fydd yn gelfyddyd. Ond crebach bellach yw ein byd, a dall ein diwyllio. Labordy'n bwerdy yw ein byd erbyn hyn inni. Ni wyr neb allu'n diwyllio erwau daearen. Oes yw a'i neges hi'n deitl yr hollti atom, yn cloi ynni newclear yn ei dwredau o drydan, yn doeau toc yn diwel madredd o'u hymbelydredd ar ein byd o dywysiad y Medwsa. Hyhi a nadredd yn wallt a'u camedd yn wae, trawsedd ei dannedd fel baedd dig yn gethrin ei ysgithrau, yn dwyn golwg dyn i'w rheinws, y Medwsa,