Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn dal golwg dyn, eto yn nirgelwch ei natur, heb obaith, a'i galon dan ei golwg yn gyrion o garreg: Pob gwaith a fydd, ysgatfydd, i'n gwatwar. Haf heb adar mân na mwyalchen i alw'n ddyddiol heibio i'm gardd, heb iâr fach-yr-haf i rodresa'i rhyfeddod na gwenynen fusneslyd. I ble'r aeth y tacle bach hardd? Ai llygredd dyn a'u diddymodd? Glaw asid, cawod niwclear, cemegau amaeth? Haf fy medwar ugain a dwy, haf pylu fy llygaid gwerthfawr. Haf profi gwin gwinllannoedd newydd, Rapitala, l'Urfé; haf cyfeillgarwch. Haf diolch am dderbyn y cnawd gorchfygus yn grair newydd i hen gredo a synhwyrais heb ei dadansoddi fel Rhodd Mam i'r ddynol ryw. Aberystwyth GWYN WILLIAMS EUROS BOWEN FY HAF 1986