Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLAWER O GYNTEDDAU "Yn Nhy Olwen rwy-i'n dymuno marw," ebe hi. A dyna i gyd o siew a wnaeth wrth wynebu'i gelyn garw. Ni fynnai ddangos inni 'i dewrder glew. Buasai arni ofn salychau erioed, ac ni thrafodai dostrwydd neb er tâl; ond tan i'r cancer dieflig ddwyn ei hoed does gennyf i ddim cof ei gweld hi'n sâl. Dymunai fynd i'r hospis hwn am fod ei ofal fel y gwlith yn ysgafn drwm, am fod yr Angau'n byw fel rhan o'i rod a'i brofi'n gyfoeth mawr ac nid yn llwm. Ni wn a oes gan Dduw Ei nefoedd fry, ond gwn am un o'i blant gadd hyd i'r Ty. DEREC LLWYD MORGAN LLOFRUDD George Howell, periglor Llangatwg, A gwynai'n oraclaidd a phrudd Na fedrai ei braidd odid unsill O Saesneg ffasiynol y dydd. "Rhai anwar a phendew yw pobun Yn pletio'r Wenhwyseg", medd ef Wrth ddirprwywyr y Llyfrau Gleision A ddaeth â'u holiadur i'w dref. Ond mynnodd y cnaf eu diddyfnu O geiniaith y bonedd a'r rhi, A chladdu'r un pryd bob cynhesrwydd A harddwch sy 'nghlwm wrthi hi. A'r hwn a fu'n annog sawl canwaith "Na ladd" wrth drigolion y lle A'i ddwylo'n diferu o laswaed Yr iaith a lofruddiodd efe. JOHN EDWARD WILLIAMS