Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWENNOL? Ni chlywais odid untro Gymraeg ar frig y gwynt Wrth durio yn y Gelli Am lyfr o'r oesoedd gynt. Ond heddiw wele fiwsig Iaith geina'r byd i mi Yn llifo o wefus geneth Yn llyfn, ddilediaith li. Lesley o blwyf Llanigon A gadd yr allwedd goll Mewn gwersi yng Ngwernyfed I'r gogoniannau oll. laith bersain Carnhuanawc A'r Howel fawr, ddi-gryn Yn cerdded eto'r broydd Yng ngwisg y dyddiau hyn. Gobeithio'r wyf mai gwennol A welais yn y tir Yn dweud fod gwanwyn yma Ar ôl y gaeaf hir. JOHN EDWARD WILLIAMS