Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Derbyn Caeodd Lena Philips y drws ar ôl y gweinidog a phwyso arno. Roedd hi'n foddfa o chwys. Yn chwys o gywilydd. Bychan a wyddai'r gweinidog ifanc am yr hen gywilydd hwnnw, wrth gwrs. Roedd ei chywilydd hi oes yn hyn nag ef ond gyda'r briw yn barod i ail-lidio a phrocio mor boenus ag erioed. Ond ni châi Lowri brofi'r briw hwnnw, o na châi! Debyced oedd hi i'w mam, mor fywus mor fyrbwyll, hen ffasiwn neu beidio fe gâi hi gychwyn iawn beth bynnag. Doed a ddelo, wnâi hi ddim ildio fel y gwnaethai i'w mam. Caeodd y drws yn glep ar ei meddyliau. Nid pethau i'w hel oedd meddyliau iddi hi! Nid nad oedd hi'n ddigon anodd eu hanwybyddu gyda Lowri fel yr oedd hi, un funud yn fwrlwm o hwyl a'r nesaf mor ddwys, mor deimladwy. Yn hynny o beth o leia', roedd hi'n wahanol i Cipiodd ei chôt oddi ar yr hoelen a'i gwisgo'n frysiog. Diarddel y cofio oedd raid iddi bellach a mynd allan oedd y ffordd orau i wneud hynny. Onid dyna'i hateb hi bob tro? Ar y traeth fe gâi hi gerdded i gythraul. Yn nwndwr y tonnau, nid oedd hi erioed wedi methu â boddi lleisiau'r gorffennol. Dim ond wedi iddi hi lwyddo y dychwelai hi i'r ty! Ond nid ar chwarae bach y llwyddodd hi i drechu'r lleisiau'r tro yma 'Trueni na fyddech chi wedi rhoi mwy o ffrwyn arni, Mrs. Philips llais oer, beirniadol ei gweinidog 'ddylech chi ddim fod wedi cytuno iddi wrthod mae derbyn pobl ifanc yn llusern, yn arweiniad Y cymdogion wedyn, yn llawn malais gyda'u sisial hunangyfiawn. 'Dim byd arall i'w ddisgwyl, nagoedd? Wedi ei difetha o'r cychwyn cynta' mwy na llond llaw'n doedd?' Ac yn waeth na'r cwbl, y llais a gyrhaeddai i'r byw 'Fia pia' mywyd, Mam! Waeth be ddeudwch chi, fi pia fo Rhaid i mi. rhaid i mi rhaid i mi Roedd hi'n ben set ami'n eu trechu, yn ben set arni'n cyrraedd adref. Daria unwaith! Roedd Lowri wedi cael y blaen arni ac wedi gadael y drws yn gilagored eto fyth! Hithau'n dweud a dweud am ei gau Rhoddodd bwn egr iddo cyn ei glepian. Gwrandawodd. Dim smic. Yna gwaeddodd: 'Lowri!' Dim ateb! Tynnodd ei chôt a'i gadael ar ganllaw'r grisiau cyn mynd trwodd ar ei