Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Problem cynllunio adfer iaith yng Nghymru ac Iwerddon Rydym yn byw mewn cyfnod pan fo ieithoedd lleiafrifol ar draws y byd yn encilio o dan bwysedd agweddau imperialaidd sy'n dal i gynnal eu grym ganrifoedd wedi eu hymwthiad cyntaf i gadarnleoedd ieithyddol gwled- ydd llai grymus na'r pwerau mawrion. Mae hwn yn gyfnod allweddol yn hanes rhai o'r ieithoedd bychain, cyfnod pryd y daeth y pwynt y mae'n rhaid i siaradwyr yr ieithoedd a sathrwyd ers cyhyd wneud penderfyniad ymwybodol rhwng gweithredu er mwyn adfer statws eu hieithoedd, neu bwyso'n ôl a'u gweld yn diflannu a chael eu llyncu gan yr impetws tuag at unffurfiaeth ryngwladol sy'n nodweddu'r oes fodern. I'r ieithoedd Celtaidd yn yr ynysoedd hyn yn arbennig, â'u hanes hir o orthrwm o dan ddylanwad y Saesneg, mae hi'n gyfnod aruthrol o bwysig. Dengys y ffigurau sensws dros yr hanner canrif diwethaf ddirywiad enbyd yn nifer y siaradwyr Cymraeg, Gwyddeleg a Gaeleg, ac er gwaethaf yr ymdrechion pybyr a wnaed dros yr ugain mlynedd diwethaf gan garedigion y Gymraeg a'r Wyddeleg i atal y llif niweidiol, nid yw'r cyfuniad o gynllunio ieithyddol a chefnogaeth wladwriaethol hyd yma wedi bod yn ddigon cryf nac yn ddigon realistig i sefydlogi stad yr ieithoedd hyn, heb sôn am ei gwella. Daeth hi'n amlwg bellach, os ydym o ddifrif ynglyn ag adfer ein hieithoedd brodorol, ei bod hi'n gwbl angenrheidiol inni gynllunio'n ddeallus ac effeithiol i'w hachub, a hynny o fewn y deng mlynedd nesaf. Aeth y Gymraeg a'r Wyddeleg mwyach ymhell y tu hwnt i'r pwynt y mae unrhyw bosibilrwydd iddynt eu hadfer eu hunain drwy symbyliad cynhenid; mae angen ymyrraeth bositif yn y broses o farwolaeth iaith er mwyn dadwneud drwgeffeithiau'r gwladychu ieithyddol a diwylliannol sydd wedi bod ar gerdded er y Diwygiad Protestannaidd a chyn hynny. Fel arall, mae hi eisoes yn rhy hwyr. Mae'n sicr fod ambell Gymro a Chymraes, wedi alaru efallai ar yr ymdrech seithug o gael hyd i ryw ffurflen ddwyieithog neu'i gilydd, ambell aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg o flaen llys barn am baentio arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg, wedi troi eu llygaid tuag at Iwerddon a chenfigennu at statws iaith mewn gwlad lle mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod hyd yn oed yr arwyddion toiledau dros ddrysau cyhoeddus yn uniaith Wyddeleg. O gymharu hyn â'r brwydro parhaus sydd wedi bod yng Nghymru ers peth amser, ac sy'n dal i ddigwydd, i grafangu rhyw fath o gefnogaeth real allan o Lywodraeth Loegr dros y syniad o statws cydradd i'r iaith Gymraeg, ymddengys Iwerddon fel rhyw fath o Wlad yr Addewid Geltaidd, lle mae Erthygl 8 Cyfansoddiad y Weriniaeth yn diogelu statws yr Wyddeleg fel y brif iaith swyddogoll ac yn darostwng y Saesneg i radd