Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Trwy'r ffenestr Ladin, Rufeinig y byddai llawer yn ymgydnabod â'r Groegiaid hefyd, ac nid tan ail hanner y ddeunawfed ganrif yn yr Almaen, a'r ganrif ddiwethaf yn Lloegr, y bu i syniadau'r Groegiaid ddod yn rym deallusol o'r pwysigrwydd mwyaf o fewn i'r patrwm addysgol a diwylliannol. Fe gysylltir y bri a roddwyd ar Roeg yng nghyfundrefn addysg ysgolion a phrifysgolion Lloegr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ag un enw ac un ysgol yn arbennig, sef Dr. Thomas Arnold ac Ysgol Rugby. (Nid ar y maes chwarae yn unig y gadawodd yr ysgol honno ei marc yn annileadwy!) Ac nid yn unig o fewn i furiau ysgol a phrifysgol y bu cynnydd yn apêl a gafael y diwylliant a'r meddwl Groegaidd. Yr oedd yr helaethu ar orwelion Ewrop, yn wleidyddol yn ogystal ag yn ddaearyddol, yn sbardun i'r diddordeb yng Ngwlad Groeg a'i diwylliant. Daliwyd dychymyg llawer un chwyldroadol ei ysbryd gan frwydr annibyniaeth Gwlad Groeg; ac fe welid yn y cynnydd yn apêl democratiaeth a'r ysbryd gweriniaethol adlewyrchiad o'r hyn a fu'n ffynnu yng Ngwlad Groeg, yn arbennig yn Athen, yn nyddiau ei golud yn y bumed a'r bedwaredd ganrif cyn Crist. Yr oedd i rai awduron Groeg yr hanesydd Thucydides, er enghraifft, a'r athronydd Platon eu hapêl arbennig, a chawsant eu hesbonio yn nhermau amcanion a delfrydau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. At hynny fe welai ambell ysbryd mwy beiddgar na'r cyffredin ddihangfa yn y byd Groegaidd rhag gafael Cristnogaeth, a oedd ar waethaf y Diwygiad Protestannaidd wedi'i hangori'n hanesyddol yn y byd Rhufeinig. Ac, wrth gwrs, ymestynnai apêl yr ochr gelfyddydol a phensaernïol i'r diwylliant Groegaidd yn eang drwy gydol y ganrif. Ond beth am hyn oll yng Nghymru? A gafodd y diddordeb hwn yn y clasuron Groeg a Lladin, ac yn eu byd hwy yn arbennig y byd Groegaidd — unrhyw ddylanwad yn y Gymru Gymraeg yn Oes Victoria? Fe gyfeiriwyd eisoes at Thomas Arnold, prifathro enwog Ysgol Rugby, a thad Matthew Arnold, y ceir sôn amdano yn nes ymlaen. Fel y cofir, yr oedd Thomas Arnold yn un o'r pedwar y bu Lytton Strachey yn tynnu ei linyn mesur drostynt yn ei Eminent Victorians. Ond yr oedd gan Gymru ei 'eminent Victorians' hefyd, a neb yn llai enwog yn eu plith na sefydlydd Y Traethodydd, sef y Dr. Lewis Edwards; a chyda'r gwr hwn, a oedd mor fawr ei ddylanwad ar feddwl Cymru yn ystod ei oes, y bydd rhan helaethaf yr ysgrif hon yn ymdrin. Nid nad yw Lewis Edwards wedi bod yn agored i driniaeth y math o ddadfythu a ddaeth i ran rhai o Eminent Victorians Strachey. Daeth hynny i'w ran ym maes diwinyddiaeth, fel y tystia'r diweddar Trebor Lloyd Evans yn ei gofiant ardderchog iddo: Gadawyd argraff arnom ni, blant y Bala, yn ystod chwarter cyntaf y ganrif hon mai Lewis Edwards oedd y pennaf o'r diwinyddion, y diwinydd mwyaf a gododd Cymru erioed, a dyn y dylid sôn amdano yn yr un anadl ag Origen neu Athanasius, Thomas o Acwin neu John Calfin Yn ddiweddarach, o dan