Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llên xw Llwyfannu Yn ystod fy holl amser fel athro dosbarthiadau nos i oedolion, y pwnc y cawn fwyaf o drafferth gydag ef mewn trafodaeth oedd llenyddiaeth, yn farddoniaeth a rhyddiaith. O dro i dro, bûm yn traethu ar waith y rhan fwyaf o'n beirdd hen a diweddar a thrafod hefyd waith ein storïwyr a'n nofelwyr a'n hysgrifwyr. Amcan y drafodaeth fyddai ceisio astudio'r gweithiau hyn a gwerthfawrogi eu nodweddion llenyddol, eu harddull, eu brawddegu, eu cyflwyniad a'u cynllunwaith, eu ffordd o ddefnyddio dialog a chyflwyno tafodiaith pan oedd galw am hynny. Materion fel yna. A chyda barddoniaeth, trafod rithmau, mydr, delweddau, seiniau ac ati. Ond anodd iawn fyddai hoelio sylw aelodau dosbarth ar y materion hyn; cyn bo hir, byddai rhywun yn siwr o holi beth am ystyr neu safbwynt gwleidyddol, neu athroniaeth, neu syniadau'r awdur dan sylw ynglyn â thynged derfynol dyn ar y ddaear, neu am fodolaeth Duw neu ryw gwestiynau tebyg; cwestiynau heb fod a wnelont un dim â'r gwaith dan sylw fel llenyddiaeth a chwestiynau a allai chwalu trafodaeth i bob cyfeiriad a'i throi yn gawdel o siarad di-drefn a di-fudd. Byddai'n rhaid gafael yn dynn yn y ffrwyn i arbed y math hwn o gyflafan: yr unig faes lle ceid trafod technegol-lenyddol gweddol berthnasol a golau fyddai rheolau eyngan- eddu a'r mesurau caeth; yma yr oedd llawer llai o gyfle i grwydro i bobman a hefyd lai o awydd am wneud hynny. Peth perygl yw cyffredinoli, ac efallai fod grwpiau i'w cael sy'n medru trafod llenyddiaeth fel celfyddyd. Rhaid i mi addef na chwrddais i â grwpiau felly, ar wahân, wrth gwrs, i grwpiau mwy neu lai proffesiynol yn y brifysgol neu'r Academi Gymreig. 'Dwn i ddim ychwaith beth yw hanes pethau fel hyn mewn cenhedloedd eraill, ond yn y Gymru Gymraeg fe ymddengys i mi fod trafod a chwilio am oblygiadau moesol a chrefyddol (a pholiticaidd heddiw) darn o lenyddiaeth yn obsesiwn; yn wir, yn fath o glefyd. Ceisio dyfalu'r rheswm neu resymau am hyn yw amcan gweddill y llith hon. Yn ystod y 19eg ganrif, bu cynnydd mawr ym mhoblogrwydd yr hyn a elwid yn 'Self-Help'. Cyhoeddwyd llyfr enwog o'r enw hwn gan Samuel Smiles (1812-1904) ym 1859 ac erbyn 1898 cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg ohono gan y Parch. J. Gwrhyd Lewis, Tonyrefaill o dan y teitl Hunan-Gymhorth. Mae'n waith allweddol i bawb sydd am ddeall meddwl a gweithrediadau a moeseg ein cyndeidiau ganrif a mwy yn ôl. Bu'r llyfr yn aruthrol boblogaidd ac fe'i cyfieithwyd i ddwy ar bymtheg o ieithoedd: dilynwyd ef gan Character (1871), Thrift (1875) a Duty (1880) o waith yr un awdur a gellir dweud fod geiriau'r teitlau hyn yn grynodeb pur