Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Am dro gydar Amlochredd 1. AMLOCHREDD Gadewch inni ddechrau gyda chwestiwn bach rhwydd; ac yna, fe allwn symud ymlaen at rai anos. Beth yw Cymru? Yr amlochredd yw Cymru. Ond beth am yr iaith? Onid yr iaith sy'n ein diffinio ni? Heb yr iaith fe fyddem, y mae'n amlwg, yn dod yn 'Cumbria' arall. Onid yr iaith ei hun felly yw asgwrn cefn Cymru? Mae hynny'n wir. Ond peth anniddorol a disylwedd fyddai'r iaith hon heb yr amlochredd. Yr amlochredd wedi'r cwbl sy'n cynnal yr iaith, er mai'r iaith sy'n diffinio Cymreictod yr amlochredd. Felly, y mae pawb sy'n gweithio'n gadarnhaol ac yn ofalus o blaid y ffrwythlondeb amlochrog yn cyfrannu at gynhaliaeth angenrheidiol yr iaith ac at fodolaeth Cymru. Yn wir, fe awn i ymhellach. Fe ddadleuwn i fod hyd yn oed gwrthwynebwyr yr iaith, mewn rhyw ffordd od ac efallai dros dro, hwythau'n gymorth i nodi arbenigrwydd sefyllfa'r iaith. Yn sicr, y mae gwaseidd-dra a chynnal israddoldeb, bron hyd at eithafion ambell waith, yn briodoleddau sy'n cronni o fewn y fodolaeth Gymreig. Dyma sy'n nodweddu cyflwr y genedl i raddau helaeth ar hyn o bryd. Ac felly, mewn modd rhyfedd fe allent gyfrannu at unigrywiaeth ac arbenigrwydd Cymru o'i chymharu â Lloegr; ac o'r herwydd, heb yn wybod, fe allent hybu'r patrwm cyflawn o arwahanrwydd sy'n clymu'r iaith a'i hetifeddiaeth diriogaethol wrth ei gilydd, Ond gallai llawer o'r pethau eraill, sy'n plethu drwy'r iaith ar hyn o bryd, barhau heb yr iaith a heb Gymru fel cenedl. Gallai'r economi ffynnu. Gallai hanes a daearyddiaeth gael eu hastudio. Gellid hyd yn oed ganu (er cof amdanynt) ei chaneuon gwerin hi. Ond heb yr iaith fyw ei hun, y peth llafar arbennig hwn, ni byddai yma barhad nac i gymeriad nac i unigolyddiaeth nodweddiadol ein cenedl. 2. CANOL YR AMLOCHREDD Ond beth sy'n cynnal yr iaith hon yn uniongyrchol? A derbyn mai'r amlochredd i gyd wrth gwrs sy'n ei chynnal yn waelodol, beth yw'r gynhaliaeth fwyaf canolog? Mae'n amlwg fod tim rygbi Cymru yn rhan ddigon pendant o'r amlochredd, megis dawnsfeydd traddodiadol a diwydiannau ac enwau lleoedd a ffurf y tir a gwartheg duon a'r math arbennig o anghydffurfiaeth adfeiliedig. Ond y mae yr un mor amlwg hefyd fod pob un o'r rhain yn llai uniongyrchol yn ei effaith ar yr iaith nag ysgol feithrin neu ysgol uwchradd Gymraeg, neu lyfr newydd gan lenor da neu gan lenor poblogaidd. Beth, felly, yw'r gynhaliaeth