Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wrth y fath wledydd cyfforddus a sefydledig. A thrwy drugaredd, ni chredaf y gwelwn wlad fel yna fyth eto ar diriogaeth Cymru. Beth bynnag a ddywedir am ein mynyddoedd bondigrybwyll, fe'n ganwyd ni oll i'r Iseldiroedd dreiniog a godidog hyn. Wrth law y mae'r môr hallt. Fe adeiladodd ein tadau ryw dipyn o gob. Mae mawr eisiau ei drwsio, a hynny ar frys. Bydd bob amser angen ail-lenwi bylchau cyson. Bydd bob amser atgyweirio ac ailadeiladu i'w cyflawni. Ac o'r tu mewn i'r gwrthglawdd hardd hwn gwrthglawdd ein penderfyniad a'n hewyllys Gymreig — fe fydd bob amser angen adennill tir. Ymladd ac adennill eto. Brwydro ac adnewyddu. Dyna dy dynged, Lywarch. Mae'r dwr yn dod i fyny oddi tan y llawr, yn llithro'n llysnafeddog, yn gwasgu'n ddiarwybod. Ffurfir llynnoedd helaeth ambell dro, a rhaid eu hadennill o hyd ac o hyd, dro a thrachefn, er mwyn tyfu o'r newydd y cynhaeaf Cymraeg. Tatws ein traddodiad. I hynny oll y'n ganwyd. Aberystwyth R. M. JONES NODIAD Paratowyd erthygl Elin ap Hywel 'Problemau cynllunio adfer iaith yng Nghymru ac Iwerddon' yn rhifyn diwethaf Y TRAETHODYDD o fewn y cynllun Cymraeg i Oedolion yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a noddwyd gan y Swyddfa Gymreig.