Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau MEIC STEPHENS, gol., Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 1986 Gellir dosbarthu efrydwyr a darllenwyr Cymraeg yn haenau cronolegol megis ar safle cloddio archaeolegol neu ddaearegol. Dyna'r hynafgwyr sy'n perthyn i oes cyn Geirfa Lloyd-Jones ac yn cofio, mae'n ddiau gennyf, gyffro'r rhifyn cyntaf yn 1931; eraill iau wedi dechrau ar eu gwaith cyn bod Geiriadur Prifysgol Cymru. Ac felly trwy'r strata, a'r blynyddoedd arwyddocaol yn nodi rhyw gaffaeliad newydd i hwyluso'r daith ac i gynnig arweiniad. Gwyddom fod gwyr oes Victoria yn bobl yr ymgymeriadau mawrion, ond nid llai cynorthwyon ein dydd ni Hanes Llenyddiaeth Gymraeg, Y Bywgraffiadur3 Llyfryddiaeth Llên (ac laith ar y ffordd), Llyfryddiaeth Hanes Cymru, ac yn awr Cydymaith. Ymgymeriad mawr, yn wir, yw hwn, ffrwyth llawer o gynllunio, cydweithio a gweinyddu gwaith nifer o awduron. Yn ystadegol y mae yma 'tua 2865' o gofnodion (a flinodd rhywun ar eu cyfrif?) wedi'u llunio gan 222 o gyfranwyr (heb grybwyll y rhai a ddiffygiodd ar y ffordd neu a fethodd gywiro addewidion) wedi'u gosod allan ar 662 o dudalennau (682 yn Saesneg). Yn y Rhagair olrheinir genedigaeth y llyfr mewn academi, ei feithrin gan bwyllgor, a'i weinyddu gan gyngor (hanes sy'n bur ddiddorol ac yn gosod patrwm i fyfyrio arno), ond a barnu wrth y diolchiadau, bychan iawn oedd y tîm golygyddol o'i gymharu â'r holl adnoddau sydd at wasanaeth cyhoeddwyr gwyddoniaduron a chyfeirlyfrau Saesneg ac Americanaidd. Ni wadai neb ychwaith nad ar y Golygydd y syrthiodd pen trymaf baich sylweddol y gwaith. Ef a gasglodd ac a olygodd (ac a ail- wampiodd a diwygio mae'n debyg gannyf) y cynnwys, a'i cwtogodd ac a'i had- drefnodd gan wynebu dicter a siom cyfranwyr o bosibl; ysgrifennodd nifer o gofnodion ei hun, a thros gyfnod o wyth mlynedd o gymell ac o drefnu llwyddodd i ddwyn y maen hwn i'r wal. Y mae yma orchest bersonol yn ogystal â ffrwyth cydweithio ac mae'n rhyfeddol fod cyfrol o'r maint a'r rhychwant hwn wedi'i chynhyrchu â chyn lleied o adnoddau. Mae'n llyfr hwylus i'w ddefnyddio. Y mae'r defnydd gofalus o wahanol fathau o deip a'r system croes-gyfeirio yn ei gwneud hi'n hawdd crwydro trwyddo a dilyn trywydd ymholiad. Y mae graen hefyd ar yr argraffu sydd yn lanach (am ei fod ar bapur gwynnach) na'r argraffiad Saesneg, er ei fod yn arbennig yn y nodiadau llyfryddol yn fanach. Er hynny, rhaid imi ddweud fod yn well gennyf rwymiad a siaced lwch y gyfrol Saesneg na'r un Gymraeg. Bwriad Cydymaith yw bod yn gwmni difyr a gwybodus ar daith darllenydd trwy lenyddiaeth Cymru. Disgwylir i Gydymaith fod yn holl-wybodol, yn ddiddorol, yn ddigon deallus i ragweld cwestiynau cyn eu gofyn ac i ehangu gorwelion trwy arwain yr ymholydd o gofnod i gofnod. Llyfr i bori ynddo, nid i'w ddarllen ydyw, a dyna paham nid wyf am fentro ei adolygu, dim ond nodi argraffiadau. Nid oes amheuaeth ynghylch gwybodaeth y Cydymaith. Mae ei faes yn eang awduron, cyfansoddiadau o bob math, cerddi a gweithiau unigol, cymeriadau a chrynodebau o nofelau a storïau, pynciau a mathau llên, symbolau, arwyddluniau, syniadau, beirniadaeth, prif fannau hanes, etc., popeth y tybiai'r Golygydd a allai egluro cefndir a chynnwys ein llên a goleuo meddwl ei darllenwyr. Arbennig o werthfawr yw cael trafodaeth ar bynciau nad hawdd cael gwybodaeth gyn- hwysfawr a pharod arnynt megis noddwyr a phlastai, newyddiaduron a