Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ellis a Meg Ellis i mewn, Mari Ellis allan, Eirian Davies i mewn, Jennie Eirian allan (ond Siôn Eirian ifanc yn sleifio i mewn yng nghysgod ei dad), y gwyr Harri Gwynn a T. H. Parry-Williams i mewn, y gwragedd Eirwen Gwynn ac Amy Parry-Williams allan. Y mae hyd cofnod yn arwydd o bwysigrwydd y gwrthrych. Er na thâl cymryd hyn yn rhy lythrennol a dal fod y Cydymaith yn credu fod Max Boyce fymryn yn bwysicach na Geraint Bowen, at ei gilydd mae'r dewis yn ddoeth: y rhan fwyaf yn wyr yr un golofn, neu'r golofn a hanner, rhai o'r cywyddwyr mawr, W. J. Gruffydd, Ann Griffiths, O. M. Edwards, Pantycelyn, Parry-Williams, T. Gwynn Jones, W. H. Davies, Bobi Jones, Euros Bowen ac eraill yn wŷr dwy golofn, a'r ychydig dethol — Dafydd ap Gwilym, David Jones, Gwenallt, Waldo, Henry Vaughan, Kate Roberts, Glyn Jones a Saunders Lewis yn eu plith yn ddwy golofn a hanner. A derbyn mai ffôl fyddai mynd ati i gyfrifllinellau'n rhy ddeddfol, mae'r cofnodion yn ddigon agos i'w 11e. Teimlaf, er hynny, fod rhai'n cael rhy ychydig o sylw, e.e. Tegla, R. T. Jenkins a G. J. Williams, ac o leiafun, Hugh Bevan, yn cael cam gan mor gwta y cofnod. Diau fod yn y cofnodion ran frychau, ond mae hwn, fel y dylai Cydymaith fod, yn arweinydd pur ddiogel. Yr hyn yr anelir ato yw'r farn gydnabyddedig. Y mae ambell ymgais i arwain barn, e.e., Hilda Vaughan, ac ambell gofnod unochrog, e.e., neo-clasuriaeth sy'n sôn yn helaeth am lenorion 30au a 40au'r ganrif hon ond heb grybwyll gair am safonau beirniadol y 18fed a'r 19fed ganrif. Amheus wyf hefyd o gydbwysedd ambell gofnod megis yr un ar y Silures sy fel petai'n dal fod y llwyth wedi ymladd yn Crécy (1346) a Poitiers (1356). Droeon eraill, hyd yr wyf yn gymwys i farnu, mae'r farn a gynigir yn fynych yn un gyfoes a nifer o'r cofnodion yn adlewyrchu'r ymchwil ddiweddaraf, megis yn achos Nennius a'r Historia Brittonum, y Gododdin, canu Llywarch Hen, y 'Tair Rhamant'. Ond y pris a delir am y farn gydnabyddedig, a chymryd y gyfrol drwyddi, yw diffyg cyffyrddiad personol. Ni ddisgwylid cyfeirlyfr yn nhraddodiad geiriadur Dr. Johnson, ond y mae dyn yn gweld eisiau'r frawddeg gofiadwy, y sylw bachog neu ryw arwydd mai unigolion ac nid panel a fu'n llunio'r cofnodion. Dichon fod y golygu, yn yr ystyr honno, yn rhy drylwyr. Rhan o weithgarwch dosbarthiadau nos y gaeaf nesaf fydd chwilio am fylchau, gwallau a cham bwyslais yn y Cydymaith. Mae'n bosibl yr â rhai i faes uwch- feirniadaeth a cheisio priodoli cofnodion i enwau yn y rhestr o gyfranwyr. Gêm ddifyr arall fydd cymharu'r fersiwn Saesneg a'r un Cymraeg i nodi cam- gyfieithiadau a gwahaniaethau. Bydd pwy bynnag a â trwy'r gyfrol mor fanwl â hynny yn dysgu llawer, ac wedi i ddydd y difyrion hynny ddod i ben bydd hon yn dal yn gyfrol ryfeddol o eang ei chwmpas, a diogel ei harweiniad; un werthfawr i bori ynddi ac i ennill budd a phleser ohoni. BRYNLEY F. ROBERTS P. J. DONOVAN (gol.), Ysgrifeniadau Byrion Morgan Llwyd, (Gwasg Prifysgol Cymru, 1985), Pris £ 4.95. Dyma'r gyfrol ddiweddaraf i ymddangos yng Nghyfres Clasuron Yr Academi Gymreig, a gwiw gweld rhoi troedle digamsyniol addas fel hyn ynddi i un o blith ein pennaf awduron rhyddiaith glasurol. Arferid rhyw dybio gynt mai gweithiau digon sychdduwiol o ran eu cenadwri, tra amherthnasol ar eu gorau hyd yn oed i'r oes oleuedig hon, yw llafur ysgrifenwyr rhyddiaith rywiog ysblennydd oes y Dadeni a'r Diwygiadau yng Nghymru yn ogystal â'r ganrif 'dlawd' honno cyn