Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mawnog lom a gweundir blwng, Rhai gwŷr a rhai cwn yn gysgodion rhwng Llygad y camera a'r gorwel milain: Chwilio y maent yma am gyrff plant bychain. Pyllau dwr, pellterau oer, Drychiolaethus; grug, a lloer, A rhywbeth cyfeiliom a cholledig Yn wylo hen y gwynt cyntefig. Ac o ddoe diadfer y cyrff cuddiedig Daw atgo' am wylo arteithiedig, A swn, fel swn cwn, y didrugaredd Yn llafrio a darnio y diymgeledd. O ryw isfyd dreng fe lithrodd fry Ysbryd aflendid o'r tywyllwch du A llusgo ei ffordd i galonnau dynion: Ar y rhostir hwn mae ei nod a'i olion. Yr adeg ydyw pan dreiodd Duw, Yr ysbryd o gariad, o'n ffordd ni o fyw, Adeg ydyw i'r ffieidd-dra anghyfaneddol Dorchi ei wâ1 yn eneidiau pobol. Ac fe gyfreithlonir egrau chwant, Derbynnir pob budredda yng nghnawd tyner plant, A down i ddygymod â gwaed caeau ffwtbol, A bydd llid ar y strydoedd yn beth perffaith naturiol. O bydew dynoliaeth wele y nos Yn dyrchafu y mae'n awr yn agos; Y nos yn yr hon ein harwyr ni Fydd y ddeuddyn hynny, Hindley a Brady. Rhag ewyllys y tywyllwch nid oes lle i droi, Rhag awyddfryd y nos nid oes dim ffoi, Ac yn y nos hon fe ddown ni i ddirnad Ystyr y butain ar Fwystfil Ysgarlad.* Gweler Datguddiad XVII Cerdd Y NOS HON GWYN THOMAS