Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Erw o dir ym Middlesex} Rhai sylwadau ar wyddoniaeth Gwilym Hiraethog Barn 0 leiaf un beirniad yw mai Gwilym Hiraethog (William Rees, 1802- 1883) oedd 'llenor mwyaf amryddawn ei ganrif Yn sicr, yr oedd yn un o'r rhai mwyaf effro i ddatblygiadau gwyddonol ei gyfnod ac ar hyd ei oes gwnaeth ymdrech fwriadol i fod yn 'gyfoes' trwy gynnwys peth deunydd gwyddonol yn rhai o'i ysgrifau niferus. Mae'n amheus a lwyddodd bob amser i daro deuddeg yn hyn o beth ac fe nodweddid cryn gyfran o'i wyddoniaeth gan elfen gref o ddeuoliaeth meddwl. Ar y naill law bu'n ddigon parod i groesawu datblygiadau technolegol o bob math ac i ganmol y math o gymdeithas a ragwelai'n codi yn eu sgil. Ond ar y llaw arall bu'n gyndyn iawn i drafod ymhlygiadau deallusol y gwyddorau sylfaenol a hyn mewn cyfnod pan oedd cryn fynd ar drafod dylanwad syniadaeth newydd ar ddiwinyddiaeth cyfnod The Origin of Species a'r Essays and Reviews. Ai am y rhagwelai'r canlyniad anochel o agor pyrth diwinyddiaeth uniongred Gymraeg i wyntoedd croesion y gwyddorau newydd y bu Hiraethog mor amharod i drafod y berthynas rhyngddynt? Beth bynnag oedd y rheswm, erys ymagwedd ambifalent Hiraethog at wyddoniaeth a thechnoleg ei gyfnod yn ffenomen dra diddorol ac ar sawl cyfrif y mae'n ddrych i ymateb Cymru yn gyffredinol i ddatblygiadau gwyddonol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ôl ei dystiolaeth ei hun bu gan Hiraethog ddiddordeb mewn gwyddoniaeth o'i ddyddiau cynnar. 'Yr hyn a ddenai fy sylw a'm serch boreuol, yn bennaf, oedd hanesyddiaeth a seryddiaeth', meddai.2 Rhyw hanner dwsin o lyfrau a oedd ar gael yng nghartref ei rieni yr adeg honno ac yn eu plith Daearyddiaeth Robert Roberts, Caergybi, a Drych y Ddaear a 'r Ffurfafen Mathew Williams3 dau lyfr tebyg iawn eu patrwm i lu mawr o lyfrau seryddol Saesneg o'r un cyfnod. Ni chafodd Hiraethog unrhyw addysg golegol ffurfiol; ni fanteisiodd felly ar yr amryfal gyrsiau 'gwyddonol' a gynigiwyd gan academïau anghydffurfiol y cyfnod. Rhaid felly ei gyfrif yn llwyr hunan-addysgedig o ran ei wybodaeth wyddonol. Yn 1837, pan oedd yn 35 oed, cyhoeddodd Hiraethog YGongl-Faen neu eglurhad cysefin a'r egwyddoriony Gwirionedd Cristionogol cyfieithiad o waith gwreiddiol gan Americanwr, Jacob Abbott.4 Prin y gellid cyfrif hwn yn llyfr pwysig nac yn un diddorol ychwaith ac ychydig o gamp sydd ar y cyfieithu. Fel y sylwodd Eirug Davies, nodweddid y trosiad gan nifer o ymadroddion amwys sy'n awgrymu nad oedd Hiraethog yn rhyw sicr iawn bob amser am union ystyr y Saesneg gwreiddiol.5 Efallai mai'r ail bennod