Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dyfed Sylfaenwyd y gyfrol hon* ar y bardd Dyfed gan Beti Rhys ar ddyddiadur ei thaid Nathan Dyfed, a oedd yn frawd i Ddyfed, ynghyd â'r hanes a draddodwyd yn y teulu o genhedlaeth i genhedlaeth, a braslun ei thad, Ap Nathan, o gofiant Dyfed na chafodd fyw i'w gwpláu. Bellach fe drosglwyddwyd y defnyddiau crai i ofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Rhennir y gwaith i chwe phennod sy'n dwyn y teitlau 'Y teulu a'r blynyddoedd cynnar', 'Symud i Gaerdydd', 'Y darlithydd a'r teithiwr', 'Yr emynydd', 'Yr eisteddfodwr a'r bardd' ac 'Ei bersonoliaeth, ei gyfeillion a'r blynyddoedd olaf Ar ôl rhoddi manylion am hynafiaid Dyfed, adroddir fel y symudodd y teulu o Gâs-mael, lle ganwyd Dyfed, i Aberdâr cerdded yr holl ffordd a'u hychydig eiddo ar drol, a buwch flinedig gyda hwy, heb sôn am y ci bach a lwyddodd i ddianc a'u canlyn. Y mae'r bennod hon yn hynod ddiddorol gan ei bod yn ddrych o gyflwr caled teulu cyffredin a symudodd o'r wlad i ardal y gweithfeydd yn y gobaith am well byd. Adroddir am galedi'r bywyd, y frwydr barhaus gydag afiechyd a'r damweiniau a ddigwyddai yn y pwll glo. Bu tad Dyfed farw fel canlyniad i ddamwain, ac yr oedd Dyfed ei hun yn gweithio yn y pwll pan oedd yn wyth oed. Yn ddiweddarach bu'n dilyn ysgol nos ond yn y man cefnodd ar y pwll glo ar ôl ffrae gydag un o'r swyddogion ynglyn â'i fargen, ac aeth i Gaerdydd lle bu'n borter ar y rheilffordd am ddwy flynedd gan letya gyda thad a mam y Parch. Gwilym Williams, Twr-gwyn, Bangor. Dan ddylanwad y Parch. Morgan Jones, Caerdydd a blaenoriaid Seion, yr hen gapel, dechreuodd ar ei yrfa fel pregethwr ac aeth i ysgol y Parch. Edgar Williams, Casnewydd, ac yna am gyfnod i Goleg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Ordeiniwyd ef yn Sasiwn Tai-bach, Port Talbot, yn 1884 ond gwrthododd alwad i fugeilio eglwys, er iddo gael cynnig sawl tro rhwng 1884 a 1900. Pan ofynnodd gwr ifanc iddo paham na dderbyniodd alwad, atebodd, 'Na 'fedra i ddim clymu fy hun, wel'di, i na gwraig nac eglwys, neu fe fydd gen i gynffonnau na fedrai'i ddim eu hysgwyd i ffwrdd pan ddaw chwant mynd i'r Aifft arnaf Oherwydd y rhyddid hwn, crwydrodd y byd gan ymweld â.Gwlad Canaan, yr Aifft, Deheudir Affrica a'r Unol Daleithiau yn eu tro, a hynny'n bennaf er mwyn ei iechyd. Ar ôl dychwelyd, byddai'n darlithio ar yr hyn a welodd, a chyhoeddodd un llyfr taith pur ddiddorol dan y teitl Gwlad yr Addewid a'i gyplysu â'i Dyfed: bywyd a gwaith Evan Rees (1850-1923) gan Beti Rhys, Dinbych, Gwasg Gee 1984. 116n. Pris [3.00.