Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

oherwydd yr oedd ef wedi canfod thema'r 'Storm' yn gliriach na neb ar ei ôl yn ei lyfryn Oriau Gydag Islwyn. Ac yn Islwyn: detholion o'i Farddon- iaeth ('Llyfrau Deunaw') Caerdydd, 1948 dyfynnodd Syr Thomas Parry- Williams, gyda chymeradwyaeth, yr hyn a ddywedai Dyfed am y gwahaniaeth rhwng y bardd a'r athronydd 'yn ei lyfr bach cyfoethog'. Efallai fy mod yn methu, ond i mi y mae adleisiau pendant o emyn mawr Islwyn i'r 'Hapus Dyrfa' yn emyn Dyfed. Galwodd Syr Thomas Parry-Williams yn ei ysgrif'Nodyn ar Farddon- iaeth Emynau', y cyfeiriwyd ati eisoes, at 'leoliad symudol y gair bach "yno" yn emyn Islwyn: Y mae Dyfed yntau'n ailadrodd y gair 'yno': Yn ychwanegol at hyn y mae'r llinellau yn ein hatgoffa o linellau grymus Islwyn: (gol. O. M. Edwards, Gwaith Islwyn, 'Cyfres y Fil', Llanuwchlyn, 1903, t.57). Condemniwyd emyn Dyfed hefyd oherwydd ei bod yn amhriodol sôn am 'anfarwoldeb' yn 'diferu' er y gellid derbyn fod 'gras' yn 'diferu': Y mae gras ac anfarwoldeb Y tebyg yw mai meddwl am y gwaed yn diferu yr oedd Dyfed, a bod hwnnw'n arwyddocáu 'gras ac anfarwoldeb' iddo. Cred Beti Rhys fod emynau fel 'Arnom gweina Dwyfol Un' a 'Tyrd, Ysbryd Glân, i adnewyddu'r byd' yn dangos uchafbwynt Dyfed fel Nid oes yno neb yn wylo, Yno nid oes neb yn brudd, Troir yn fêl y wermod yno, Yno rhoir y caeth yn rhydd. Hapus dyrfa, Sydd â'u trigfan yno mwy. Pen Calfaria Yno, f enaid gwna dy nyth. Yno clywaf yn yr awel Salmau'r nef yn dod i lawr. Dacw enaid lleidr aflan Wedi crino yng ngwres y fflam. Nis gall y fflam eu difa hwy A brynwyd ar y pren, "A thros y rhai gogwyddodd Ior Ar fron o waed ei ben Fe ddaw hyd at dy rwymau, sant, Fe lysg dy garchar pridd Lawr hyd y bedd, ti lami i'r lan O'r fflam yn angel rhydd. Yn diferu drosto i gyd.