Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

emynydd, ac y mae cryn dipyn i'w ddweud o blaid hynny. O'm rhan fy hun, buaswn wedi hoffi gweld mwy o emynau Dyfed yn yr Atodiad, canys er bod emynau rhai fel Elfed yn swynol, yr oedd emynau Dyfed yn gyhyrog, ac y mae casgliad Ap Nathan, tad Beti Rhys, yn llyfr cyfoethog iawn. Carwn cyn terfynu ychwanegu teitl un llyfr o gyfieithiadau gan Dyfed sy'n ychwanegiad at lyfryddiaeth y cofiant, sef, Y Tlws Cerddorol: sef y "Christian Choir" IraD. Sankey ajames Granahan, Briton Ferry, d.d. Sylwais ar un llithriad bach ar dudalen 94: 'Ymadawiad Arthur' oedd awdl 1902, nid 'Gwlad y Bryniau'. Diolch i'r awdur am ei llafur cariad yn cyhoeddi cofiant i'w hen ewythr. Fe'm harweiniodd i yn ôl i ddarllen ei weithiau ac i gyflawni addewid a wnethum dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl i'r Parch. Gwilym Williams y buaswn innau'n dweud gair o blaid Dyfed rywbryd. DERWYN JONES Y TRAETHODYDD CYLCHGRAWN CHWARTEROL Os ydych o blaid y Gymraeg fel iaith ysgolion, yr ydych o'i phlaid fel iaith addysg; Os ydych o'i phlaid fel iaith capel, yr ydych o'i phlaid fel iaith diwinyddiaeth; Os ydych o'i phlaid fel iaith ffurflen a llên, yr ydych o'i phlaid fel iaith diwylliant. Ac yr ydych o blaid cadw'r Traethodydd, yr unig gylchgrawn sy'n darparu ar gyfer diwylliant cyffredinol y Cymro Cymraeg. Bargen am f 1 yrhifyn + cost cludiad. Bargen fwy tanysgrifiad blwyddyn ymlaen llaw: f4 (gan gynnwys cludiad) oddi wrth Y Cyfarwyddwr, Gwasg Pantycelyn, Heol Ddewi, Caernarfon