Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cymeradwyo llyfrau gwaeth i na hen nac ifanc.) Siaradodd lawer am Wirionedd, meddai Stopford Brooke, 'a choronwyd ef â choron y Gwirionedd — coron ddrain'. Cefnodd amryw o aelodau ei gynulleidfa; ond llanwyd eu lle'n fuan. Dechreuodd dynion 'meddylgar ac eiddgar' ddod i Trinity Chapel o bob rhan o Brighton. Cafodd ei bregethau effaith arbennig ar ddynion a flinid gan anghrediniaeth. Brodyr oedd yn y mwyafrif yn ei gynulleidfa. Pan ffurfiwyd cymdeithas gan dros fíl o weithwyr i sefydlu llyfrgell a darllenfa, gwahoddasant Robertson i roi'r anerchiad agoriadol. Yr adeg honno yr oedd 'dyrchafu'r dosbarth gweithiol' yn golygu i lawer yn Brighton danseilio'r bendefigaeth a'r frenhiniaeth; ac yr oedd sôn am y cam a ddioddefai gweithwyr, yn gyfystyr â chychwyn chwyldro. Eithr teimlai pobl gyffredin Brighton fod yn eu plith o'r diwedd glerigwr a rannai eu dyheadau. O ran magwraeth yr oedd yn Dori, ond o ran argyhoeddiad yn Rhyddfrydwr. Dywedodd mewn llythyr, 'Mae fy chwaeth gyda'r pendefig, fy egwyddorion gyda'r dorf. (Gwnaeth yr un sylw am Wordsworth yn un o'i ddarlithiau ar farddoniaeth.) Cwynai plwyfolion wrth yr Esgob fod Robertson yn pregethu politics. Mynegodd ei ofid yn 1851 fod y cynyrfiadau ar y Cyfandir wedi peri adwaith at Geidwadaeth ymhlith dynion a fu hyd hynny'n Rhyddfrydwyr. Troesant eu cotiau er mwyn atal llanw democratiaeth. Aeth rhagddo, 'Beth erioed a wnaeth Ddemocratiaeth yn beryglus ond Ceidwadaeth?' Torïaeth, nid amgen, sy'n gyrru'r gweithwyr yn wallgof. Credai Robertson iddo fethu yn Cheltenham am na fedrai ddylanwadu ar y dosbarthiadau uchaf. Nid oedd yn delfrydu'r gweithwyr. Gwelodd ymraniadau chwerw rhwng aelodau'r Ddarllenfa yn fuan wedi iddi gael ei sefydlu. Yr oedd yn ddigon o realydd i fynegi'r farn nad yw'r dosbarthiadau cymdeithasol yn cwrdd â'i gilydd ond ar un pwynt budd ariannol. 'Datgenir mai unig egwyddor unol cymdeithas yw ysbryd hunanoldeb'. I'r gwrthwyneb, meddai, hwn yw'r union ysbryd sy'n dinistrio cymdeithas. Nid oedd Robertson yn Sosialydd. Ar ôl ei farwolaeth annhymig ar 15 Awst, 1853, sgrifennodd F. D. Maurice at ei dad i ddatgan ei gyd- ymdeimlad. Dywedodd nad oedd ganddo Ie i gredu fod y mab yn derbyn ei Sosialaeth Gristnogol ef. Er hynny, ceir tystiolaeth fod y mab yn edmygu'n fawr gynhesrwydd anhunanol Sosialydd Cristnogol amlwg arall Charles Kingsley. Addefodd mai prin oedd yr offeiriaid a lefarai â chalon fyw dros y dosbarthiadau dioddefus, megis brodyr o'r un cig a gwaed. Bu gormod o ddrilio'r tlodion mewn ymostyngiad a theyrngarwch i awdurdodau'r byd hwn. Yn unol â'i ddymuniad ei hun, nid argraffwyd nemor ddim o waith Robertson yn ystod ei oes, ond wedi iddo farw dechreuodd cyfeillion gasglu ei bregethau i'w cyhoeddi. Erbyn i gofiant Stopford Brooke