Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Iaith y Nefoedd Anghydffurfiaeth ar Gymraeg yn Sir Fynwy yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg I'r ychydig ffyddlon sydd yn parhau i ddyfod ynghyd yn ddau neu dri ar y Sul i wrando ar bregeth Gymraeg yn atseinio drwy gapeli enfawr cymoedd diwydiannol de Cymru, fe ymddengys fod y cysylltiad rhwng eu hiaith a'u crefydd yn un hanfodol. Y capel yw encil olaf y Gymraeg mewn llawer man. Nid oes lle i amau cyfraniad y capeli yng nghadwraeth yr iaith; eto, dengys astudiaeth o berthynas Anghydffurfiaeth a'r Gymraeg yn rhan- barth diwydiannol yr hen Sir Fynwy nad perthynas seml sydd rhwng y ddwy. Cyd-ddigwyddodd twf diwydiannol â thwf Anghydffurfiaeth yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dylifodd y boblogaeth i'r sir ar raddfa fwy nag i unrhyw sir arall yng Nghymru a Lloegr, gan ymgasglu'n heidiau o gwmpas y ffwrneisi haearn a'r pyllau glo.1 Daethant i ardal lle 'roedd yr hen draddodiad Anghydffurfiol gwreiddiol wedi medi ffrwyth ymdrech diwygiad Methodistaidd y ganrif flaenorol;2 ardal Ue 'roedd hen eglwysi'r plwyf(ar wahân i ambell eithriad nodedig3) yn pellhau fwy-fwy oddi wrth y boblogaeth a oedd yn crynhoi ar lawr gwlad cymoedd y plwyfi eang. Daethant hefyd yn eu holl amrywiaeth: o ddwyrain a gorllewin, pell ac agos; o gefn gwlad Cymru a chanolbarth Lloegr, o'r Alban ac Iwerddon. Gweision fferm oedd y mwyafrif, tra oedd eraill a chanddynt beth profiad diwydiannol. Dyma greu, felly, glytwaith o acenion a ieithoedd, a thraddodiadau cymdeithasol a chrefyddol gwahanol. Daeth llawer â'u crefydd i'w canlyn. Yn achos yr Anghydffurfwyr adlewyrcha'r patrwm enwadol natur y mewnfudo. Ar wahân i ambell ardal, Morfa Gwynllwg, er enghraifft, mewnfudwyr o gefn gwlad Cymru a ddaeth â Methodistiaeth Galfinaidd Gymraeg i Sir Fynwy. Saif capel Ebenezer, Twyncarno, Rhymni, yn gofadail i ymdrechion George a Dinah Davies o Abergwaun.4 Owen Enos o Flaenannerch a osododd wreiddiau Methodistiaeth yng nghwm Ebwy,5 tra sefydlwyd capel y Rock, y Coed- duon, oherwydd awydd Evan Jones, Llangeitho, a John Jones o Lanfaes- ar-y-Bryn i barhau i addoli yn ôl eu harfer ar ôl symud i Gwm Sirhywi yn y 1820au.6 Yn achos y Wesleaid, mewnfudwyr Saesneg o Gaerefrog oedd y cyntaf i adeiladu capeli i'r enwad, ond cyn gynted ag y daeth pobl 0 Lanidloes, Llangurig, a Thre'r Ddôl, buan iawn yr ymddangosodd cylchdaith Wesleaidd Gymraeg a chapeli megis Bryn Seion, Tafarnau Bach.7 Roedd gan yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr nifer sylweddol o gapeli