Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Herwr o Gwmystwyth Un o'r rhannau mwyaf diddorol yn The Dialogue of the Government of Wales (1594)1 gan George Owen o Henllys yw'r cyfeiriad hwn at herwyr Cwmystwyth2 gan Barthol (un o'r ddau siaradwr): I was putte in greate feare howe I shoulde passe the vpper parte of Cardigansheir for it was towlde me that I must passe a place called Coomystwyth where many Theeves that lyved as owtlawes and some not owtlawed in deede made their abode and that they lyved by openn Robbyinge.3 Fe welwn Demetus, yr ail siaradwr, yn ymateb i'r sylwadau hyn drwy sôn am natur wyllt ac anghyfannedd yr ardal 'fulle of greate and wild Mounteynes and fewe inhabitantes';4 cynigir rheswm arall, hefyd, dros y nythaid hon o herwyr, sef bod tair sir yn ffinio â'i gilydd yng nghyffiniau Cwmystwyth Aberteifi, Maldwyn a Maesyfed, a'r tair yn perthyn i gylchdeithiau gwahanol (sefyllfa unigryw yng Nghymru'r 16eg ganrif):5 gwlad ddelfrydol, felly, ar gyfer herwyr yn eu galluogi i ddianc rhag crafangau'r gyfraith, ac osgoi dialedd un siryf drwy gadw ar delerau da â'r ddau yn y siroedd cyfagos.6 Mewn llsgr. a ysgrifennwyd c. 1624, Caerdydd 19,7 cadwyd dwy linell o waith un o'r herwyr hyn yn gwahodd gwr y dygodd ych oddi arno i gwblhau'r pennill. Gwelwn y lleidr yn cyfeirio'n gwbl agored at Gwm- ystwyth fel ei drigfan, gan ymffrostio iddo ddwyn yr ych a bygwth dwyn ychwaneg i'r dyfodol wyth'. Bygythiol, hefyd, yw naws yr ateb gan y perchennog, wrth iddo atgoffa'r herwr am y dynged a ddaeth i ran un o'i gymrodyr, gwr a ddygodd farch ei gadw mewn hualau,8 fel na ddwg yr un ceffyl arall. Fe gofnodwyd yr hanesyn yn llsgr. C19, 644 (ar dop y tudalen): Lleydir a yrrodd gennad at wr i dygasai9 fo vch oddiarno a hanner pennill ag erchi i'r gwr i orffen: I mae'n eiste yng Nghwmystwyth a ddvg yr ychlO ag a ddwg yr wyth. Ateb: I mae'n aros mewn aerwy a ddvg y march ag ni ddwg mwy. Wrth ystyried y cysylltiad hwn rhwng herwr a hwsmon, mae'n wiw i ni gofio yma am barodrwydd gwylliaid Cwmystwyth i gyfarfod (yn y mynyddoedd) ag unrhyw wr y dygwyd ei wartheg ganddynt; yn ôl George Owen 'there they will parle with him and will deale honestly with him and take a reasonable some of mony of him to redeeme his cattell'.11 Coleg Prifysgol Dewi Sant DAFYDD HUW EVANS