Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TROEDNODIADAU 1 Gw. OP III, 1-119. 2 Gw. Ogwen Williams, 'Some Notes on Tudor Cardiganshire', Ceredigion 6, 144-5. 3 OP III, 92. 4 ibid., III, 93. 5 ibid., III, 93. 6 ibid, III, 93. 7 Yn y llsgr. hon, hefyd, (tud. 771) fe gadwyd englyn o waith Twm Siôn Cati o Borth y Ffynnon (ger Tregaron), lle ymffrostia yn ei ddawn fel lleidr; gw. D. P. Davies (gol.), Coleg Dewi a'r Fro, 10. 8 Fel rheol, crogwyd gwyr am ddwyn meirch yn ystod y cyfnod hwn. Gw. F. G. Emmison, Elizabethan Life: Disorder, 286-92. 9 Nid yw'r ffurf yn gwbl eglur. 10 I bob golwg 'vych' a geir yn y testun. 11 OP III, 93-4. Adolygiad D. SIMON EVANS, Medieval Welsh Religious Literature, Writers of Wales, University of Wales Press, Cardiff 1986, tt.1-93. Un o ryfeddodau llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol nas gwerthfawrogir yn aml ydyw'r cyfoeth o lenyddiaeth grefyddol a waddolwyd inni gan ein cyndadau. Yn y gyfrol hon, rhydd yr Athro Evans arolwg gynhwysfawr ohoni. Rhanna ei ymdriniaeth yn ddwy bennod, y gyntaf yn ymwneud â barddoniaeth (tt. 1-56) a'r llall â rhyddiaith (tt.57-91 ). Brodorol ei naws yw'r farddoniaeth ond y mae ar yr un pryd, yn adlewyrchu syniadau, chwedlau a ffeithiau'r ffydd Gristnogol a oedd yn gyffredin i holl fyd Cred. Cyfieithiadau uniongyrchol, ar y llaw arall, o weithiau a ysgrifennwyd yn wreiddiol mewn ieithoedd estron ydyw'r rhan fwyaf o'r cyfansoddiadau rhyddiaith. Gwelir diddordeb y beirdd mewn crefydd a diddordeb y crefyddwyr mewn barddoniaeth o gyfnod cynnar iawn. Clerigwr a ysgrifennodd Englynion y Juvencus, a chlerigwr, yn ôl pob tebyg, oedd bardd Armes Prydain, ac un o feibion yr Esgob Sulien a ganodd i Gyrwen, ffon esgobaethol Llanbadarn Fawr. Y Gogynfeirdd a'r Cywyddwyr a adawodd y waddol gyfoethocaf o farddoniaeth grefyddol a cheir yr un nodweddion ar ganu'r ddwy ysgol. Adlewyrcha eu barddoniaeth symbolaeth rifyddol y cyfnod yn eu defnydd o ymadroddion fel 'naw radd nef, 'pum oes y byd' a'r 'saith brifwyd bechod'. Hoff bynciau eu canu oedd Duw, Crist, Mair, Dydd Brawd ac Uffern (er mai'r Gogynfeirdd sydd fwyaf hoff o sôn am Uffern, efallai), rhyw gors ysig o Ie yn llawn artaith neu i ddefnyddio geiriau'r Athro nad yw'n gallu osgoì gwneud ambell jôc Altogether a shambles, thoroughly hideous and uninviting, a place to be avoided at all costs'. Cenid yn ogystal i'r saint: Dewi a haeddai'r sylw mwyaf, ceir awdl iddo gan Gwynfardd Brycheiniog yn ogystal â chywyddau gan Ieuan ap Rhydderch a Dafydd Llwyd o Fathafarn ond ceir cerddi i saint brodorol eraill megis Cadfan, Gwenfrewi a Thysilio. Yn ystod cyfnod y cywyddwyr daw themâu newydd i