Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mewn i'r canu. Cenid i'r Grog a'r chwedlau a gysylltir â hi; cyfeirid at themâu mawr yr Oesoedd Canol fel Dawns Angau a chyda Siôn Cent daw elfen o bregethu uniongyrchol i mewn i'r canu. Nid mewn cerddi unigol yn unig y ceir mynegiant barddonol o'r ffydd Gristionogol ond cedwir penillion i Mair yn rhan o Wasanaeth Mair, sef, y cyfieithiad o'r Officium Parvum Beatae M ariae Virginis ac o ddiwedd y cyfnod, cedwir cyfres o ddramâu moeswersol: Y Tri Brenin o Gwlen; Yr Enaid a'r Corff; Y Gwr Bonheddig a'r Diawl, a phregethau mydryddol y cwndidwyr o Forgannwg a Gwent. Ni ellir cwyno ar natur gynhwysfawr y bennod gyntaf hon; os oes diffyg arni, yn nhriniaeth yr Athro o aestheteg y farddoniaeth y mae hynny. Prin y gellir dweud fod ei galw yn 'delightful poem' yn gwneud cyfiawnder â chrefftwaith cywrain a gwrthebau'r sôn am y 'cawr mawr bychan' yng nghân Nadolig Gwallter ap Madog. Er bod yr Athro yn dangos sut y manteisiai'r beirdd ar fformiwlâu y canu seciwlar wrth ganmol y Duwdod, go brin fod ei ymdriniaeth yn cyfleu inni swyn llinellau fel y rhai a ganwyd gan Einion ap Gwalchmai i Dduw llinellau a batrymwyd, yn ôl pob tebyg, ar Addfwynau Llyfr Taliesin: Addfwyn hoedl hidlai rac llaw, ni llwydd, Addfwyn pob gorllwyn pan ddiadalwydd Addfwynach, cynach, cennyf boed rwydd Ceinfoli Celi calonogwydd. Llenyddiaeth addysgol ymarferol ydyw'r rhan fwyaf o'r rhyddiaith grefyddol a dysgwn oddi wrthi am wasanaethau a chredoau'r cyfnod ond cawn yn ei hanes gip ar noddwyr seciwlar yr oes, fel Efa ferch Maredudd y cyfieithwyd Credo Athanasius ar ei chyfer, neu Gruffydd ap Llywelyn ap Phylip ap Trahayarn o'r Cantref Mawr y gwnaeth Ancr neu feudwy Llanddewibrefi gasgliad o brif weithiau crefyddol y cyfnod iddo. Unwaith eto, rhydd yr Athro Evans syniad da o rychwant yr holl ddeunydd, testunau megis yr Elucidarius a anelai at roi dosbarth ar bynciau crefyddol pwysig cyfieithiadau o weithiau a oedd yn rhan anhepgor o litwrgi gwasanaethau'r Eglwys, megis Credo'r Apostolion, y Deg Gorchymyn a'r rhan gyntaf o Efengyl Ioan, ac yn y blaen. Codwyd ofn ar y Cristion canoloesol trwy gyflwyno iddo lun o erchyllterau Uffern a'r Purdan mewn gweithiau gweledigaethol megis Purdan Padrig. Ceir un testun canoloesol cyfriniol unigryw, sef, Y Gysegrlan Fuchedd gyda'i darlun o'r Crist yn blentyn deuddengmlwydd sydd efallai yn nodi uchafbwynt cyfansoddi crefyddol y cyfnod. Wrth i'r Oesoedd Canol ddirwyn i ben, gwelir natur y ffynonellau yn newid. Dwy fuchedd i saint brodorol a erys o'r cyfnod cynnar, sef, Buchedd Dewi a Buchedd Beuno, eithr tua throad yr unfed ganrif ar bymtheg, cyfieithwyd bucheddau'r saint Ewropeaidd i'r Gymraeg o Legenda Aurea Jacopo de Voragine gan Syr Huw Pennant. Cyfieith- wyd fwy fwy o'r Saesneg yn hytrach nag o'r Lladin fel y trosiadau o'r casgliad o bregethau gan John Mirk a gadwyd yn llsgr. Hafod 22 a wnaed tua 1483. Ni ellir cwyno ar natur holl gwmpasog ymdriniaeth yr Athro yn y bennod ar ryddiaith ond unwaith eto fel yn achos y farddoniaeth byddai'r gwaith yn gyfoethocach o lawer i'r darllenydd diwylliedig o'r ugeinfed ganrif pe ceid rhagor am uchafbwyntiau llenyddol yr etifeddiaeth gyfoethog hon. Aberystwyth MORFYDD E. OWEN