Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Yma y cynhaliwyd y Seiat gyntaf, Mai 1737) Cerdd Y WERNOS LLANDYFALLE Yma bu dyfal gyrchu heb griwr a heb glych yn nos ddi-hid offeiriad ac awr y Sentar sych. Dros Afon Sgithwen deuent heb falio am ddig na sen: gwerinwyr llwm Crucadarn, Talachddu a Llys-wen. Â'i gefn wrth lenni'r ffenest' fe safai Howel gawr yn sôn am gymun Talgarth a'i fythgofiadwy awr. Agor eu Beiblau coron, at Dduw cyfodi llef, a'r gegin fawr lawr carreg yn demel iddo Ef. Ac yna wedi'r ddwyawr gwau'u ffordd i lawer plwy' gan adrodd am a wnaethai yr Arglwydd iddynt hwy. JOHN EDWARD WILLIAMS