Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Kate Bosse-Griffiths a J. Gwyn Griffiths Rhaid imi ddechrau trwy ddiolch i'r ddeuddyn unigryw yma am bob ysbrydiaeth a ddaeth i mi ac eraill trwy ein hadnabyddiaeth ohonynt ac am yr haelioni a wnaeth eu cartref yng Nghwm Rhondda yn ganolfan i 'Gylch Cadwgan' ym mlynyddoedd cynnar yr Ail Ryfel Byd. 'Cadwgan' oedd enw eu ty mewn cymdogaeth a ymgysurai wrth odre Moel Cadwgan, y mynydd cartrefol ond digon serth a saif rhwng y Pentre yn y Rhondda Fawr a Maerdy — 'Moscow Fach' i rywrai pan oeddem yn llanciau yn y Rhondda Fach. Heddychwyr pendant oeddem, a chenedlaethwyr rbonc a chydgenedlaetholwyr brwd, ac y mae'n sicr fod pawb a sugnodd faeth o fywiogrwydd y gyfathrach ddiwylliannol honno yn dra diolchgar hyd heddiw. Cyn y cyffro Cadwganaidd yr oeddwn i fy hunan wedi derbyn bendith arbennig gan John Gwynedd Griffiths gan mai efe oedd y cyntaf a fynnodd gennyf siarad Cymraeg ag ef. Buaswn yn astudio'r Gymraeg cyn hynny ac wedi mentro barddoni ychydig yn yr iaith hyd yn oed cyn gadael yr Ysgol Sir yn Aberpennar. Ond peth gwahanol oedd sgwrsio yn Gymraeg. Fe'm rhwystrwyd gan ofn rhag mentro ymddiddan yn iaith gysefin fy nghenedl cyn iddo ef fynnu fy mod yn ateb ei sylwadau yn yr iaith ryfeddol hon wrth geisio llywio cwch ar yr afon Cherwell ger Rhydychen. Tybiaf fod dros hanner canrif wedi mynd heibio oddi ar hynny, ac yn y cyfamser y mae'r ddeuddyn cwbl eithriadol yma wedi ennill bri yng Nghymru fel llenorion ac ysgolheigion yn yr iaith Gymraeg ac enwog- rwydd rhyngwladol fel Eifftolegwyr diwyd a disglair. Rhaid ychwanegu iddynt ysbrydoli eu meibion, Robat Gruffudd a Heini Gruffudd, i gyfoethogi bywyd a diwylliant Cymru mewn dulliau cwbl nodedig. Prin iawn yn y byd Cymraeg a Chymreig yw'r rhai sydd â digon o wybodaeth ganddynt i bwyso eu cyfraniadau Eifftolegol. Diau eu bod yn y maes yma yn gallu mesur a phwyso a dehongli a gwerthfawrogi ei gilydd, a rhaid eu bod yn gwneud hynny'n gyson; ond y mae hawl gan y gweddill ohonom i edmygu a llawenhau. Enillodd Kate Bosse-Griffiths radd Doethur am ei gwaith awdurdodol ar gerfluniaeth y corff dynol yn y cyfnod Eifftaidd diweddar. Argraffwyd yr astudiaeth werthfawr hon yn 1936, a'i hailargraffu yn 1978. Yma cyfunir y diddordeb archaeolegol-hanesyddol a'r mwynhad yn yr hardd a'r celfydd sydd yn amlwg yn ei hymarweddiad a'i hymddiddan. Gwnaeth waith clodwiw yn Amgueddfa Abertawe ac wedyn wrth ofalu am y casgliad Wellcome o henebion Eifftaidd. Gwelir agweddau pwysig iawn ar ei chyfraniad yn ei hyfforddwr i'r Oriel Archaeolegol yn Amgueddfa Abertawe, Ugain Mil ofFlynyddoedd o Hanes Lleol ( 1 967), a'r ddwy gyfrol