Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Plentyndod a TYFU (Jane Edwards) Diddorol oedd clywed Edna O'Brien, John Mortimer ac A. J. P. Taylor yn trafod atgofion plentyndod mewn rhaglen deledu rai misoedd yn ôl (15-5- 83). Diddorol oherwydd i'r siaradwyr godi nifer o bwyntiau a allai fod yn berthnasol iawn i'r sawl sy'n troi at unrhyw gyfrol sy'n ymwneud â phlentyndod. Mynnai Edna O'Brien, er enghraifft, mai byd o ffantasi yn ei hanfod yw byd y plentyn a hwnnw'n un hollol gyfrinachol ac ar wahân. Mae'n fyd y mae iddo ei reolau pendant ei hun a'i wefr unigryw. Aeth John Mortimer â'r ddadl gam ymhellach drwy awgrymu nad oes gan y plentyn mewn gwirionedd ryw lawer o ddiddordeb ym myd oedolion. 'Roedd ymateb A. J. P. Taylor i'r sylwadau hyn yn nodweddiadol ddadleuol wrth iddo honni fod annibyniaeth y plentyn yn hollol angenrheidiol gan fod oedolion ar y cyfan yn wallgof! Ychwanegodd Mr. Mortimer fod rhaid i unrhyw awdur ymdrechu'n galed i ddiogelu'r ymdeimlad o ryfeddod sy'n nodweddu'r blynyddoedd cynnar a'i nod ef ei hun oedd dal gafael yn y gynneddf honno heb ildio'r mymryn lleiaf o rin y cyfnod hwnnw. Rhaid gwarchod trysorau plentyndod, y teimladau sylfaenol, amrwd, y weledig- aeth unigryw, ddi-gonfensiwn a'r ymateb gwreiddiol, synhwyrus i amgylchfyd sy'n llawn rhyfeddodau dieithr. Ac eto nid yw'r syniadau hyn nac yn newydd nac yn chwyldroadol. Pwysleisiwyd droeon gan addysgwyr ac athronwyr, heb sôn am lenorion, bwysiced yw dyddiau mebyd yn natblygiad yr unigolyn. Ychwanegwyd wrth gwrs at y drafodaeth gan ddamcaniaethau seicolegwyr y cyfnod modern. Does neb yn amau arwyddocâd y dyddiau cynnar ac fel y dywed D. J. Williams yn ei gyfrol Hen Wynebau (1934): Wn i ddim a wyf fí'n eithriad i'r rheol ai peidio. Ond y mae fy atgofion a'm syniadau am bobl a phethau pan oeddwn i'n grwt 's lawer dydd, cyn gadael cartref erioed, yn gliriach, ac yn fwy pendant o ddigon na dim a ddysgais neu a brofais wedi hynny, mewn darn o oes ddigon llawn a chymysg (t.64). Yr un yw ergyd sylwadau T. J. Morgan wrth iddo drafod cyfrolau hunangofiannol D. J. Williams yn ei gyfrol deyrnged: Yr wyf yn cofio fy mod i un tro wrth drafod o Law iLaw Rowland Hughes yn dyfynnu o un 0 lyfrau yr Arglwydd David Cecil, sef bod profiadau'r blynyddoedd cynnar, fawr a mân, yn aros yn ddyfnach eu hargraff na phrofiadau diweddarach, a bod yr argraffiadau hynny sydd â syndod a chryndod teimladol a newydd-deb meddwl plentyn ynddynt ac o'u cwmpas yn troi'n ddefnydd darluniadol ym meddwl y llenor creadigol, weithiau'n ymwybodol ac weithiau heb yn wybod iddo. (' Yr Hunan-Gofiannydd', D. J. Williamsy Abergwaun, gol. J. Gwyn Griffiths (1965) (t.97). Mae'n iawn, wrth gwrs i lenor gydnabod pwysigrwydd y dyddiau cynnar.