Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Williams Pantycelyn Cyfrinydd Clasurol? Ar nos Lun yr ail o Fawrth cynhaliwyd yr wythfed ddarlith flynyddol yng Ngholeg Prifysgol Abertawe dan nawdd Cronfa Goffa y diweddar Athro Henry Lewis athro cyntaf yr Adran Gymraeg yn Abertawe.* Sefydlwyd y Gronfa Goffa tua deunaw mlynedd yn ôl er mwyn hyrwyddo'r diddordeb yn y meysydd hynny yr ymddiddorai'r athro ei hunan ynddynt a hynny er budd y Gymdeithas Gymraeg yn Abertawe a Chwm Tawe. Yn y gorffennol traddodwyd darlithoedd ar bynciau llenyddol, hanesyddol, crefyddol a llên gwerin gan Syr Ben Bowen Thomas, Syr Thomas Parry, Yr Athro J. E. Caerwyn Williams, Yr Athro Charles Williams, Yr Athro Gwynfor Griffiths, Y Parchedig Owen E. Evans a Mr. Trefor Owen. Eleni cafwyd darlith wefreiddiol a phwysig gan y Prifathro R. Tudur Jones o Goleg Bala Bangor.* 'Saunders Lewis a Williams Pantycelyn' oedd teitl y ddarlith a'r maes hwnnw yn wir â chysylltiad uniongyrchol â'r Adran Gymraeg ac â'r Athro Henry Lewis. Drigain mlynedd yn ôl cyhoeddodd Saunders Lewis ei gyfrol Williams Pantycelyn. Ar y pryd 'roedd yn ddarlithydd yn yr Adran Gymraeg a phennaeth yr Adran, yr Athro Henry Lewis a ddarllenodd broflenni'r llyfr. Tybed beth oedd ymateb a barn yr Athro Henry Lewis ar y pryd? Gwyddom i ymddangosiad y gyfrol beri cryn gyffro. 'Roedd yn sicr yn gyhoeddiad pwysig yn hanes datblygiad beirniadaeth lenyddol yng Nghymru. Gorfododd Saunders Lewis ei gyd-Gymry i edrych ar y Pêr Ganiedydd mewn goleuni newydd a hynny ar dair lefel. Ceisiodd dafoli gwerth llenyddol William Williams. Ceisiodd ddangos fod seicoleg fodern yn gallu cadarnhau dadansoddiad Williams o'r profiad crefyddol, a cheisiodd egluro cynnwys meddwl neu yn wir ddiwinyddiaeth Williams mewn ffordd newydd. Sylwadau ar yr olaf yw cynnwys darlith y Prifathro R. Tudur Jones a bydd yn sicr yn apelio at y sawl sydd ag awydd i ddeall arwyddocâd yr hyn a geir yng ngwaith yr emynydd. Dangosir mewn modd ysgolheigaidd a meistrolgar mai'r unig ffordd i ddeall a dehongli William Williams ydyw drwy ei ystyried o fewn ei gefndir hanesyddol diwinyddol fel un o blant y diwygiad Methodistaidd. O fewn y mudiad hwnnw y cafodd ei brofiadau crefyddol, ac ar gyfer anghenion y seiadau Methodis- taidd y bwriadwyd ei emynau. Dywed Gomer M. Roberts 1960: 13 "Yr oedd Pantycelyn yn ei gyfnod yn un o brif arweinwyr y Methodistiaid Cymreig. Bu'n llwyddiannus iawn fel arolygydd y seiadau yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion. Yr oedd yn bregethwr melys, ond ei ddawn arbennig oedd swcro'r dychweledigion yn y seiadau". Gellid disgwyl felly i'w waith adleisio diwinyddiaeth ddiwygiedig a Chalfinaidd y cefndir hwnnw.