Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mary Owen yr Emynyddes Un o nodweddion amlycaf emynyddiaeth Saesneg y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw'r nifer mawr o emynau poblogaidd a gyfansoddwyd gan ferched. Cyfieithwyd rhai ohonynt i'r Gymraeg, a gwelir nifer ohonynt yn ein llyfrau emynau. Yn y Caniedydd presennol, ceir cyfieithiadau o emynau gan Sarah Adams, Charlotte Elliott, Frances Ridley Havergal, Cecil Frances Alexander, a Catherine Winkworth, ymhlith eraill. Mewn ysgrif a gyhoeddwyd yn weddol ddiweddar1, mae Ms. Catherine Porteous yn nodi arbenigrwydd y gwragedd hyn. Nid merched encilgar, cyfyng eu gorwelion, mohonynt o gwbl ond merched eithriadol o flaengar yn eu hoes. 'Well-educated, forceful, and energetic, they wrote, lectured, organised, and campaigned for social reform and higher education for women.' Yr oedd nifer ohonynt hefyd o deuddfryd ysgolheigaidd. Er enghraifft, dysgodd Mrs. Alexander, gwraig Esgob Derry, Wyddeleg, a chyfieithu i'r Saesneg yr emyn hynafol a adwaenir dan yr enw 'St. Patrick's Breastplate'. Nodwedd arall arnynt oedd eu hegni a'u hym- roddiad i'r gwaith o gyfansoddi emynau. Mae helaethrwydd eu cynnyrch yn drawiadol. Nid oes amheuaeth na welid yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg egni ac ymroddiad tebyg mewn materion crefyddol a llenyddol. Mae swm cynnyrch y ganrif yn fawr, fel y gwyddys yn dda. Ond yng Nghymru, prin oedd y merched a oedd yn ymhél â chyfansoddi, boed ar bynciau crefyddol neu fel arall. Eithriad yn ei dydd oedd Mary Owen. Prin, chwaith, y gellir ei chymharu o ran ei chefndir a'i hamgylchiadau â'r gwragedd a enwyd uchod. Yr oedd hi serch hynny yn gyfrannog o'r un dycnwch, dewrder, a dyfalbarhad ag a welir ynddynt hwy. Ganed Mary Rees yn Llansawel, Morgannwg, yn 1796, ugain mlynedd wedi geni Ann Thomas ym Maldwyn. Pan oedd Mary yn ifanc iawn, symudodd y teulu i dy o'r enw y Graig, yn Llansawel, ac yma y maged hi. Lle tawel a phrin ei boblogaeth oedd Llansawel ei phlentyndod, ond fe fu hi, yn ystod ei hoes, yn dyst i newid mawr ym mhatrwm cymdeithasol y fro. Nid oedd poblogaeth y plwyf i gyd yn 1782 ond 155; erbyn 1801 yr oedd yn 271; yn 1831, cyrhaeddodd 417, ac yn 1841, 612. Ond yn 1851, wedi dyfodiad y rheilffordd ac agor y gwaith haearn, yr oedd yn 1737 ac yn 1871, rai blynyddoedd cyn marw'r emynydd, yr oedd yn 4,803 ac yn dal i gynyddu'n gyflym.2 Mae ei hanes crefyddol hi a'i theulu yn adlewyrchu'r newidiadau hyn. Yng nghyfnod plentyndod Mary, yr oeddid yn dal i gynnal achosion mewn tai annedd, a hynny yn aml yn wyneb gwrthwynebiad yr awdurdodau.