Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

7 Hymnau, 10-12. 8 Hymnau, 26. 9 Hymnau, 30. 10 Hymnau, 36-7. 11 Ceir trafodaeth ar le'r thema hon yng nghanu Robert gan Stephen J. Williams, Robert ap Gwilym Ddu, Caerdydd 1959, 24-5. 12 Hymnau, 27. 13 Fe wêl y cyfarwydd fod fersiwn Y Caniedydd beth yn wahanol. 14 Elfed, art. cit., 19. R. M. JONES, Seiliau Beirniadaeth. Mae'r ddwy gyfrol nesaf yn y gyfres Seiliau Beirniadaeth gan R. M. Jones bellach wedi'u cyhoeddi. Disgrifiodd yr awdur y gyfres hon ar ffurfiau llenyddol fel 'troednodyn i Cerdd Dafod'. Mewn gwirionedd, dyma'r estyniad unigol helaethaf a gafwyd i lyfr J. Morris-Jones, ac y mae'n dwyn goleuni cyfoes i egluro rhai hen bynciau. Paratowyd y cyfrolau ar gyfer cwrs yn y Radd Allanol a gynhelir gan Goleg Prifysgol Cymru, ond y maent ar gael yn gyffredinol. Dyma'r cynnwys: Cyfrol 2, Ffurfiau Seiniol, tt.68-283. (1) Mydr, (2) Mesurau Caeth, (3) Yr Englyn, (4) Mesurau Rhydd, (5) Traethodl: nodyn ar y Soned, (6) Y Llinell, (7) Odl, Proest a Chymeriad, (8) Cynghanedd, (9) Ceseilio. Cyfrol 3, Ffurfiau Ystyrol, tt.284-412. (1) Dullweddau Ymadrodd, (2) Ffigurau Ymadrodd/Ailadrodd a Chyferbynnu deuol, (3) Cyferbynnu triol, (4) Troadau Ymadrodd: Trosiad, (5) Coegi, (6) Amwysedd. Dylid nodi fod Cyfrol 1, Rhagarweiniad, tt.1-67, eisoes wedi'i chyhoeddi yn 1984 ( £ 2). Cynhwysai'r gyfrol honno: (1) Mathau o Astudiaeth Lenyddol, (2) A oes gwyddor beirniadaeth lenyddol? (3) Amrywiaeth o fewn Undod Cyf- erbynnu, (4) Undod o gylch Amrywiaeth Ail-adrodd, (5) Man cyfarfod swn a synnwyr, (6) Dieithrio, (7) Cydblethiad Pwrpas, Deunydd a Ffurf, (8) Beirniadaeth Lenyddol Ffurfiolwyr, Marcsiaid, Calfiniaid. Cyst y cyfrolau: 2: f); 3: ,ε2.50. (Ceir copïau o gyfrol 1 o hyd am l2). Mae'r gost yn cynnwys post. Fe'u ceir drwy yrru'r swm uchod at Yr Adran Gymraeg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.