Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiad J. I. DANIEL a JOHN FITZGERALD (cyf. a gol.), Ysgrifau Athronyddol ar Grefydd, (Gwasg Prifysgol Cymru; 1982). Y mae i'r gyfrol hon amcan deublyg ond yn anffodus nid peth hawdd yw cysoni dau blyg yr amcan yn hollol foddhaol. Ar y naill law y mae'r casgliad i fod o ddefnydd at bwrpas cwrs ar athroniaeth crefydd i fyfyrwyr. Dyna brif fwriad hybu'r gyfres y perthyn y gyfrol iddi, sef Cyfres Beibl a Chrefydd sydd o dan olygyddiaeth D. R. Ap-Thomas. Ar y llaw arall y mae yn gasgliad o gyfieithiadau i'r Gymraeg. Fel casgliad o gyfieithiadau o lenyddiaeth athronyddol fe ellid ystyried y gyfrol fel rhan o ddelfryd sydd yn mynd yn ôl i 1932 pan sefydlwyd Adran Athronyddol o Urdd y Graddedigion gyda'r bwriad, ymysg pethau eraill, o hybu cyfieithu clasuron athronyddol i'r Gymraeg, gyda'r clasuron Groeg yn arbennig mewn golwg. Cyfyd anhawster am fod y ddau amcan i raddau yn milwrio yn erbyn ei gilydd. Os dymunir detholiad yn Gymraeg o lenyddiaeth athronyddol i bwrpas rhoi cwrs i fyfyrwyr, yna bydd raid cynnwys enghreifftiau o lenyddiaeth gyfamserol erthyglau o'r cyfnodolion neu dameidiau o lyfrau diweddar. Ond o edrych ar bethau o safbwynt cyfieithu clasuron, fe ddylid dethol yn wahanol am o leiaf ddau reswm. Yn un peth, prin y gellir cyfrif unrhyw gyfraniad llenyddol yn glasur onid yw wedi sefyll prawf amser fel gwaith o arbenigrwydd cydnabyddedig, ac ni ellir disgwyl y bydd pob erthygl ddiweddar y disgwylir i fyfyriwr ei ddarllen, yn disgyn i'r dosbarth yna. Peth arall, y mae'r deunydd modern diweddar sydd yn cael ei gymeradwyo i sylw myfyrwyr, a hynny am resymau dilys, gan amlaf yn yr iaith Saesneg yn barod; y maent eisoes o fewn cyrraedd y myfyriwr yn y gwreiddiol. Yn wyneb y ffaith nad yw'r ddau gymhelliad a nodwyd yn gorwedd yn esmwyth iawn gyda'i gilydd, efallai mai gwell fyddai glynu wrth bolisi gwahanol ar gyfer y dyfodol, gan gyfyngu'r gwaith o gyfieithu i glasuron nad oeddynt yn y Saesneg yn wreiddiol. Hwyrach fod lle i ddadlau ar y pwynt, ond yn sicr y mae'n bwynt sydd yn haeddu ystyriaeth. Mae'n amlwg fod yn rhaid i werthfawrogiad teg o'r gyfrol hon gael ei thrafod ar ddau gyfrif, sef ar gyfrif teilyngdod y cyfieithu ac ar gyfrif doethineb y dethol. I Y cyfieithu i ddechrau. Heb os nac oni bai y mae'r cyfieithu o safon y gall y brifysgol a'i myfyrwyr fod yn falch iawn ohono. Y mae'r gwaith yn drylwyr a chydwybodol drwyddo draw ac ni allai neb a wyr y mymryn lleiaf am lithriadau cyfieithu a phenbleth ymafael ag ystyr termau athronyddol lai nag edmygu llafur a llwyddiant y ddau a fu wrthi mor ddygn. Felly gyda'r petruster a weddai y cynigir yr awgrymiadau canlynol; wrth gwrs fe ellid amlhau enghreifftiau. I ddechrau, dyma enghreifftiau lle nad yw'r priod-ddull yn gorwedd yn esmwyth yn ei gyswllt: Tud. 10, llin. 13 Defnyddir y gair 'rhag blaen' mewn cyswllt 11e mae'r ystyr yn gofyn yr ymadrodd 'ymlaen llaw'. Onid ystyr 'rhag blaen' yw 'ar unwaith'? Tud. 13, llin. 12 Anffodus yw'r ymadrodd 'o'r gorau', sydd yn golygu rhywbeth tebyg i 'very well' yn y Saesneg. Gwell, i gyfieithu'r Almaeneg 'bloss' fyddai 'ar y gorau'. Tud. 45, llin. 26 Fe geir yr ymadrodd 'o'r dechreuad' am 'at the outset. Onid mwy naturiol fyddai 'ar y dechrau'?