Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerddi RHUFAIN (I Ffred Ffransis) Tarde, quae credita laedunt, Credimus (Ovid) Yn Rhufain, mi welais olion Y Gristnogaeth oedd yn dechrau gwreiddio 0 dan feini cadarn Caesar Awgwstws: Temlau'r morynion Sibyl, cysegrleoedd Iau; Teml yr Holl Dduwiau A Duw y Môr. Cerrig creulon oedd yr olion, ac ynddynt Parhau ias yr hen greulondeb caled. Ar y piler carreg lle rhwymwyd Pedr Garcharor Cyn ei groeshoelio â'i ben i lawr Gallwch deimlo rhygniadau'r gadwyn Dan lwch yr hynafiaeth, a gedwir Yn y ddinas fodern yn grair i ymwelwyr (Deugain lire am ei weld, Pan oeddwn i yno). Anghytgord ar y Nadolig Yw cofio'r pethau hyn. Cofio­ Bod rhaid i greadur tlawd yn nwylo Duw Herio pob Caesar, wynebu'r piler maen, Y bara a dwr (na, nid gwin) cyn datod y gadwyn Fore'r dydd y pastynir ef yn gyfreithiol I arena'r Colisewm, i sefyll yno Nes gollyngir y llewod. Dyna a welais i Yn Rhufain y Caesariaid Ym mil naw pum deg un a dau.